Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda ni

P’un a ydych chi’n fusnes neu’n ymwneud ag ymchwil gwyddorau bywyd, gallwn ni gefnogi eich gwaith mewn llawer o ffyrdd.

Rydym ni’n gyfleuster technoleg ardystiedig ISO 9001:2015 sydd â thîm ymroddedig a hynod fedrus, yn cefnogi ystod eang o gyfleusterau ymchwil gwyddorau bywyd.

Yn ogystal â’n hystod eang o wasanaethausafonol, rydym ni’n:

  • cynnig ymgynghoriaeth academaidd
  • croesawu cwmnïau
  • darparu mynediad i gyfleusterau labordy
  • cynnig cefnogaeth dechnegol
  • hwyluso mynediad i adnoddau ehangach Prifysgol Caerdydd

Mae ein gweithgareddau’n cynnwys gwaith prosiect gyda busnesau ar sail contract, gan groesawu is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd a hwyluso cysylltiadau rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a diwydiant.

Rydym ni’n croesawu’r cyfle i drafod gwaith prosiect unigryw gyda chi.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog