Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Rydym ni’n gyfleuster technoleg achrededig ISO 9001:2015 ac GCLP ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cynnig mynediad i ystod eang o gyfleusterau gwyddorau bywyd i alluogi eich ymchwil.

Ein gweledigaeth yw galluogi ymchwil gwyddorau bywyd i ddigwydd heddiw ac yn y dyfodol drwy ein cyfleuster technoleg sy’n flaenllaw yn y DU, y gwasanaeth cynhwysfawr a gynigir gan ein technolegwyr, a’n hymrwymiad amlwg i ansawdd.

Mynediad i gyfleusterau ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddadansoddi a delweddu celloedd, genomeg a biowybodeg, a phroteinau a diagnosteg.

P’un a ydych chi’n fusnes neu’n ymwneud ag ymchwil gwyddorau bywyd, gallwn ni gefnogi eich ymchwil mewn llawer o ffyrdd.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar ein system archebu cyfarpar, mewngofnodwch i archebu.