Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Mae ein prosiectau ymchwil yn harneisio amrediad o dechnegau niwroddelweddu i drawsnewid ein gwybodaeth am yr ymennydd gweithredol.

Mae'r prosiectau canlynol yn cynrychioli sampl o ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Asesiad aml-raddol ac amlfodd o ymglymiad yn yr ymennydd iach ac afiach

Rydym yn dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae gwahanol systemau ymennydd yn rhyngweithio gyda’i gilydd a sut mae gwahaniaethau yn y rhyngweithio hyn yn effeithio ar swyddogaeth ac ymddygiad yr ymennydd.

Datblygu dulliau MRI newydd ar gyfer meintioli strwythur meinwe ar raddfa ficrosgopig

Mae’r prif ddull ar gyfer y prosiect hwn yn edrych ar sut mae strwythur meinweoedd mân yn rhwystro symudiad dŵr.

Cysylltu darganfod geneteg a genomeg i signalau delweddu

I hyrwyddo meddygaeth arbrofol, mae angen gwell mesuriadau o strwythur a swyddogaeth yr ymennydd i ddeall mecanweithiau clefydau gwaelodol.

Cross-scanner and cross-protocol diffusion MRI data harmonisation

Our aim is to increase the statistical power of clinical studies by combining datasets from different MRI scanners by MRI data harmonisation.