Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad

Rydym yn un o’r cyfleusterau gorau yn Ewrop ar gyfer delweddu’r ymennydd.

Yn gartref i gyfuniad o offer niwroddelweddu sy'n unigryw i Ewrop, rydym yn parhau i ddatblygu ein ymchwil sy'n arwain y byd sydd eisoes wedi sefydlu’r brifysgol yn un o dair prifysgol gorau'r DU ar gyfer seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth.

Edrychwch o amgylch yr adeilad

Gan gyfuno arbenigedd arbenigol clyfar mewn niwroddelweddu, mae’r Ganolfan yn debyg o ran maint i gyfleusterau yng Ngogledd America, gan alluogi ymchwil a wnaed yng Nghymru i gystadlu gyda'r gorau yn y byd.

Ased sylweddol i’r brifysgol

Mae’r Ganolfan £44m, a agorwyd yng ngwanwyn 2016, yn ffurfio rhan o safle Parc Maendy y brifysgol, sy’n ailddatblygiad gyda nifer o adeiladau sy’n hyrwyddo dyhead y brifysgol i fod yn arweinydd byd-eang mewn ymchwil ac arloesi.

Gweithio yn agos â phenseiri IBI i ddylunio adeilad a all gartrefu’r offer pwrpasol a chyfoes sydd ynddo.

Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r dyluniad, a’r gobaith yw y bydd yr adeilad yn cyflawni sgôr rhagorol BREEAM. Mae’r safle cyfan yn ased sylweddol i’r brifysgol, y ddinas, rhanbarth a thu hwnt.

Mae'r Ganolfan yn gyfleuster gwych sydd yn ein tywys ar daith unigryw o ddarganfod drwy'r corff dynol a'r ymennydd. Mae'n amser cyffrous i fod yn gweithio yn y maes hwn, ac edrychwn ymlaen at effaith y Ganolfan yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau iechyd mawr ein hamser.