Ewch i’r prif gynnwys

Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER)

Mae CITER yn ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes trwsio, adfywio ac adsefydlu meinwe, gan ganolbwyntio ar ymchwil ryngddisgyblaethol, addysg ac ymarfer clinigol.

Coronavirus (COVID-19)

Oherwydd COVID-19, bu rhaid lleihau gweithgarwch cyffredinol CITER. O ganlyniad, dim ond trwy ebost y mae modd cysylltu â CITER am y tro.  Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i ymateb i unrhyw ymholiadau mewn da bryd. Bydd gwefan CITER yn parhau i gael ei diweddaru’n rheolaidd.

Pwyllgor Gweithredol CITER

Rydym wedi cynnig y rhaglen MSc hon ers 2006. Bwriedir iddi fod ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau profi heriau ysgogol ymchwil rhyngwyneb ym maes peirianneg a thrwsio meinweoedd.

Mae ein hymchwil wedi ei rhannu’n dri grŵp - gwyddoniaeth bôn-gelloedd, peirianneg a thrwsio meinweoedd, a throsi clefydau.

Porwch drwy ein cyfeirlyfr o arbenigwyr ym maes peirianneg a thrwsio meinwe.

Right quote

Byddwn yn annog pob ymchwilydd ifanc i wneud cais am arian CITER. Mae’n eithriadol o galonogol ac yn symbyliad pwysig i ymchwilydd gyrfa gynnar fel fi gael dyfarniad mor nodedig, Rwy’n hollol bendant y bydd effaith y dyfarniad hwn ar fy aeddfedrwydd proffesiynol a’m hannibyniaeth fel ymchwilydd yn hirdymor, ac yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol.

Elena Koudouna, Gwobr Ymchwilydd Ifanc 2018

Newyddion diweddaraf

CITER researcher wins Bronze Award at STEM for Britain

12 Mai 2021

Dr Siân Morgan wins poster prize at STEM for Britain for her work on drug delivery via contact lenses

Success at the CITER Annual Scientific Meeting 2020

9 Rhagfyr 2020

Early career researchers and postgraduate students share their findings at CITER's Annual Scientific Meeting

Sian Morgan seedcorn

Seedcorn Bursary Funding 2019-2020 - call 2

29 Gorffennaf 2020

Congratulations to Dr Siân Morgan a Research Associate working in both the Schools of Optometry and Vision Sciences and Pharmacy and Pharmaceutical Sciences on her successful application to receive funding as part of the second call for the CITER Seedcorn bursary 2019-2020.

Rydym yn cymryd rhan mewn nifer cynyddol o ddigwyddiadau allgymorth bob blwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus, ymweliadau CITER ag ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â digwyddiadau Prifysgol Caerdydd.

Right quote

Fe wnaeth y dyfarniad fy ngalluogi i deithio fel Cymrawd Ymchwil gwadd at fy nghydweithiwr am rai dyddiau bob mis, ynghyd â mynychu sawl cynhadledd gysylltiedig i gyflwyno fy ngwaith. Mae’r fwrsariaeth hon wedi bod yn gam cyntaf pwysig tuag at ddatblygu’r dechnoleg hon i’w defnyddio yng Nghaerdydd a chychwyn ar raglen o waith ymchwil annibynnol.

Dr Rebecca Hemming, Prosiect Ymchwil