Ewch i’r prif gynnwys

Ynglŷn â bôn-gelloedd canser

Mae deall bôn-gelloedd canser yn cynnig y potensial i drawsnewid y modd rydym yn trin y clefyd hwn, gan roi'r wybodaeth i ni ymchwilio i therapïau canser newydd, a rhai sydd wedi'u targedu.

Mae'r hyn rydym yn ei wybod am fôn-gelloedd canser wedi tyfu'n gyflym ers lansio'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd. Yma, rydym yn gobeithio y gallwch ateb rhai o'r cwestiynau sydd gennych ynghylch bôn-gelloedd canser.

Mathau o fôn-gelloedd

Celloedd angenrheidiol ar gyfer cynnal meinwe iach yw bôn-gelloedd, yn enwedig mewn meinwe lle mae'n rhaid creu celloedd newydd yn gyson.

Maent yn celloedd anwahaniaethol, sy'n golygu nad ydynt yn arbenigol fel y rhai mewn cell y croen neu gell yn yr afu. Gall bôn-gelloedd hunan-adnewyddu a rhannu er mwyn cynhyrchu, ar gyfartaledd, un bôn-gell ac un gell newydd, sy'n cael ei galw'n gell cenhedlydd, neu’n gell transit-amplifying yn Saesneg. Gall y gell cenhedlydd hon wedyn anwahaniaethu er mwyn ffurfio'r celloedd sy'n gweithio ar gyfer mathau penodol o feinwe.

Mae'r broses anwahaniaethu hon wedi'i llywio gan signalau a reolir gan y genynnau o fewn y gell, yn ogystal â signalau sydd wedi'u secretu gan gelloedd eraill o'i hamgylch.

Cancer cells, stained green.
Bile duct cancer cells.

Bôn-gelloedd embryonig

Mae bôn-gelloedd embryonig a bôn-gelloedd mewn oedolion yn wahanol o ran nifer y mathau o gelloedd y gallant eu ffurfio. Mae gan fôn-gell embryonig y gallu i newid i mewn i bob un o'r cannoedd o fathau o gelloedd sy'n llunio'r corff dynol. Cafodd y celloedd hyn – sy'n ffurfio camau cynnar embryo – eu darganfod gan Lywydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Syr Martin Evans, Mario R. Capecchi ac Oliver Smith yn 2007.

Bôn-gell oedolyn

Mae gan fôn-gell oedolyn – a elwir yn fôn-gell somatig – ystod cyfyng o gelloedd y gall anwahaniaethu iddynt. Mewn nifer o feinweoedd, eu swyddogaeth yw bod yn system atgyweirio fewnol er mwyn ailgyflenwi celloedd, wrth i gelloedd gael eu colli yn sgîl traul, anafiadau neu afiechyd.

Bôn-gelloedd Lluosbotent Anwythol

Mae Bôn-gelloedd Lluosbotent Anwythol yn fôn-gelloedd a geir mewn oedolion, sydd wedi'u tyfu mewn amgylchiadau arbennig er mwyn eu hailraglennu mewn labordy, fel eu bod yn gallu ffurfio ystod mwy eang o mathau newydd o gelloedd.

Bôn-gelloedd canser

Mae bôn-gelloedd canser – fel pob cell canser – yn anarbenigol ac yn gallu rhannu ac adnewyddu eu hunain, yn ogystal ag esgor ar gelloedd arbenigol.

Brain cells, including astrocytes and neurons, in a stem cell differentiation experiment.

Mae'r math hwn o fôn-gell yn cynrychioli cyfran fechan o'r mathau o gelloedd mewn tiwmor, ac yn gallu atgynhyrchu celloedd tiwmor, gan beri i diwmorau dyfu a lledu. Ystyrir bod bôn-gelloedd canser yn gallu gwrthsefyll triniaethau cyffuriau a radiotherapi, ac o ganlyniad byddant yn dal i fod yno ar ôl i gwrs o driniaeth canser ddod i'w derfyn, gan alluogi'r tiwmor i aildyfu a lledu ar draws y corff.

Ymchwil bôn-gelloedd canser

Mae bôn-gelloedd canser yn cynnig llwybr newydd ar gyfer trin canser, os gallwn ddeall y celloedd hynny, gallwn eu targedu er mwyn atal metastatis canser, a phwl arall o'r clefyd.

Yn ôl tystiolaeth, mae bôn-gelloedd canser yn hanfodol wrth i diwmorau ffurfio. Nid yn unig y gallant ailadnewyddu, ond maent hefyd yn gallu cynhyrchu pob math arall o gelloedd a ganfyddir mewn tiwmor. Os gallwn drin canser drwy ddileu'r bôn-gelloedd canser yn y tiwmor, gallwn drin canser mewn modd arbenigol, sydd wedi'i dargedu.

Yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, ein nod yw deall proses y celloedd hynny, a threchu mecanweithiau eu hymwrthedd i gyffuriau. Drwy hynny, gallwn ddatblygu triniaethau sy'n targedu'r bôn-gelloedd canser hynny, er mwyn creu therapïau canser mwy effeithiol.

Celloedd epithelaidd
Celloedd epithelaidd.