Ewch i’r prif gynnwys

Ein gweledigaeth

Staff from the Institute gathered in the lab

Bydd Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn sefydlu Prifysgol Caerdydd fel arweinydd rhyngwladol yn y maes ymchwil i fôn-gelloedd canser. Y nod yn y pen draw yw datblygu therapïau newydd ar gyfer canser a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth ym mywydau'r cleifion.

Rydym yn bwriadu adeiladu ar gryfderau presennol Prifysgol Caerdydd mewn gwyddoniaeth sylfaenol, wrth ddatblygu cyffuriau a therapïau newydd, ac wrth gynllunio a chynnal treialon clinigol. Rydym yn denu ac yn meithrin doniau ymchwil rhyngwladol yn y maes hwn, o’r myfyrwyr ôl-raddedig mwyaf addawol i’r lefel uchaf un, gyda ffocws penodol ar wyddonwyr gyrfa gynnar dawnus drwy ein menter Cymrodoriaeth barhaus.

Mae’r Sefydliad Ymchwil yn meithrin trefniadau cydweithio newydd ar draws y brifysgol a chyda’r Deyrnas Unedig a phartneriaid rhyngwladol. Ein nod yw cael ein cydnabod fel canolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer ymchwil bôn-gelloedd canser, gan ddenu cefnogaeth ac arian yn barhaus gan y sefydliadau a’r unigolion sy'n awyddus i weld datblygiadau allweddol yn y maes.

Ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein sefydliad yw adeiladu ar ein harbenigedd yn y maes hwn, parhau i drosi ein gwaith yn gymwysiadau clinigol, a hefyd ehangu gorwelion ein hymchwil ym meysydd bôn-gelloedd canser a chanser.

Trwy ein gwaith ymchwil arloesol, rydym yn gwneud gwahaniaeth i'r dirwedd ymchwil hon, a nod ein Sefydliad yw trawsnewid y ffordd rydym ni'n trin canser.