Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Ar hyn o bryd mae canser yn lladd 7.6 miliwn o bobl ledled y byd bob blwyddyn.

Yn y Deyrnas Unedig, ceir diagnosis o bron 300,000 o achosion newydd bob blwyddyn, 19,000 ohonynt yng Nghymru, sy’n cyfrif am ryw bump y cant o wariant y GIG. Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer rhai mathau o ganser,  hyd yn oed ar ôl triniaeth, yn parhau’n drasig o isel.

Sut mae gwella'r cyfraddau goroesi i gleifion canser?

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ateb y cwestiwn hwn ac i fynd i'r afael â'r mater mewn modd radicalaidd. Ein nod yw dod ag ymchwilwyr arbenigol o'r radd flaenaf yn fyd-eang at ei gilydd ar draws ffiniau'r disgyblaethau i ffurfio Sefydliad Ymchwil arloesol newydd.

Mae targedu bôn-gelloedd canser yn cynnig posibilrwydd i drawsnewid sut rydym ni’n mynd i’r afael â chlefydau.  Maent yn chwarae rhan allweddol yn y broses o greu a thyfu tiwmorau, a sut maent yn ymledu drwy’r corff.  Efallai y bydd yn bosibl trin canser yn fwy effeithiol trwy  gyfuno lladd bôn-gelloedd y canser â thriniaethau presennol sy’n lleihau màs y tiwmor, ond nad ydynt o reidrwydd yn ei atal rhag tyfu’n ôl.

Mae’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ganolfan arbenigol sy'n canolbwyntio'n benodol ar y maes ymchwil hwn.

Mae'r Sefydliad yn cynnig yr amgylchedd ymchwil diweddaraf un er mwyn i uwch academyddion, Cymrodyr Ymchwil a myfyrwyr ôl-raddedig allu rhyngweithio â'i gilydd. Mae cymrodyr ymchwil ar ddechrau eu gyrfa wedi'u recriwtio i weithio ochr yn ochr â thimau sy'n arwain y byd ym maes gwyddor fiofeddygol sylfaenol a datblygu cyffuriau er mwyn creu canolfan o ragoriaeth ymchwil yn y Deyrnas Unedig fydd yn targedu canser.

Rydyn ni'n argyhoeddedig y gallwn ni wneud gwahaniaeth drwy newid tirlun ymchwil yn y maes hwn – ac yn y pen draw, gweddnewid bywydau pobl.