Ewch i’r prif gynnwys

Cyfeiriad strategol

Ein nod yw i gynnal a datblygu ein cysylltiadau arloesi a datblygu gyda busnesau.

Fel un o sefydliadau craidd rhyngwladol Cymru, rydym yn cefnogi'r economi Gymreig drwy:

  • helpu i gadw'r lefel bresennol o gwmnïau safon uchel yng Nghymru
  • yn denu cwmnïau o ansawdd uchel i Gymru.

Byddwn yn cyflawni hyn drwy roi mynediad i'n talent, gwybodaeth a gwasanaethau, yn galluogi busnesau i arloesi ac i dyfu. Bydd hyn, gobeithio, yn cynyddu galw a chyflenwad gan gyfrannu at dwf yr economi Cymreig.

Yn ogystal, byddwn yn datblygu ymhellach ein cysylltiadau gyda busnesau yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol fel rhan o'n nod i hybu twf a ffyniant y Brifysgol a Chymru.