Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio â chyflenwyr

Rydym yn gleient proffil uchel i gyfeirio ato pan fyddwch am ennill contractau ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Dewch i ddarganfod sut rydyn ni’n prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith, a chynyddu eich siawns o wneud cais am waith.

Atgoffir cyflenwyr, cyn i unrhyw nwyddau gael eu danfon neu ddechrau ar waith a gwasanaethau, y dylent fod wedi derbyn Rhif Archeb dilys gan Brifysgol Caerdydd, oni bai ei fod yn cael ei dalu drwy daliad Cerdyn Prynu. Gall methu â gwneud hynny arwain at oedi cyn i daliadau gael eu gwneud.

Cyfleoedd contract

Mae ein cyfleoedd contract ar gael ar GwerthwchiGymru, y wefan gaffael genedlaethol ar gyfer Cymru.

Mae GwerthwchiGymru yn cynnwys yr holl gyfleoedd contract a hysbysebir yn eang sydd wedi’u prisio yn uwch ac yn is na throthwyon yr UE. Hefyd mae ganddo gyswllt uniongyrchol i Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau uwchlaw trothwyon yr UE.

Rydym yn eich annog fel cyflenwr i gofrestru ar GwerthwchiGymru. Mae’r manteision yn cynnwys:

  • cofrestru a mynediad at y safle yn rhad ac am ddim
  • ddefnyddio Chwiliwr Cyflenwr, i hybu eich cwmni i brynwyr
  • neges e-bost o gyfleoedd sy’n cyd-fynd â’ch busnes
  • chwiliad sector cyhoeddus a hysbysiadau is-gontractio
  • cyfleoedd i gysylltu â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a sefydliadau cofrestredig
  • mynediad at adnoddau i helpu drwy roi pris a thendro.

Cofrestrwch yn erbyn y categorïau perthnasol i’r nwyddau neu’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu, fel eich bod yn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd contract sy'n berthnasol i'ch maes gwaith chi yn unig.

Hefyd, mae gennym Galendr Contract a Fframwaith sy’n rhoi gwybodaeth ar ein contractau a’n fframweithiau cyfredol. Mae’r rhain yn cynnwys manylion cyflenwyr cyfredol, rheolwr y contract a dyddiadau dod i ben. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Rhagor o gefnogaeth

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth busnes i bobl sy'n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes. Mae eu cymorth i fusnes yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar-lein, dros y ffôn drwy Linell Gymorth Busnes Cymru, ac wyneb yn wyneb drwy ganolfannau Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cefnogaeth contract a thendr ar gyfer busnesau bach a chanolig yn benodol. Mae ymgynghorwyr tendro wedi’u lleoli ar ledled Cymru ac yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig a'r trydydd sector i ddatblygu eu gallu, rhedeg gweithdai a helpu i gwblhau dogfennau tendro.

Am wybodaeth bellach am dendro, ewch i Busnes Cymru.

Rhwydwaith LGBT+

Rydym yn bencampwyr Amrywiaeth Stonewall, ac mae gennym rwydwaith staff Lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws+ (LGBT+) o'r enw Enfys mewn lle i'n staff. Rydym hefyd yn hapus i gynnwys staff o'n cyflenwyr heb rwydwaith staff eu hunain i gymryd rhan yn ein digwyddiadau rhwydweithio drwy gydol y flwyddyn.

Er mwyn cael eich cynnwys ar restr ebost Enfys, danfonwch eich cyfeiriad ebost i enfys@caerdydd.ac.uk. Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r holl wybodaeth sy'n cael ei anfon i'r rhwydwaith yn cael ei drin yn gyfrinachol.

Cyswllt

Gwasanaethau Caffael