Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnewid gwybodaeth

Drwy drosglwyddo gwybodaeth yn rhagweithiol rydym yn cyfrannu’n economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol i gymdeithas.

Mae cyfnewid gwybodaeth yn broses sy'n dwyn ynghyd staff academaidd, defnyddwyr ymchwil a grwpiau a chymunedau ehangach i gyfnewid syniadau, tystiolaeth ac arbenigedd.

Ein Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a noddir gan y Llywodraeth yw ein prif ddull o gyfnewid gwybodaeth. Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhaglen sy’n galluogi busnesau i wella’r gallu i gystadlu, eu cynhyrchiant a pherfformiad drwy ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar gael mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU.

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn seiliedig ar syniad syml o bartneriaeth ac ennill cydfuddiannol:

  • mantais i’r busnes drwy gyfnewid gwybodaeth i’w alluogi i gystadlu gyda chynhyrchion, prosesau a marchnadoedd newydd
  • mantais i’r academyddion y mae eu hymchwil yn cael ei ddefnyddio mewn busnes ac a allai arwain at syniadau ymchwil
  • mantais ar gyfer y Cyswllt KTP, gan fod y prosiect yn galluogi'r cwmni i wneud defnydd effeithiol o drosglwyddo gwybodaeth tra'i fod yn datblygu galluoedd rheoli/technegol mewn amgylchedd cefnogol.

Tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau