Ewch i’r prif gynnwys

Hafan Cyfrifon Cyflymu Effaith

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas. Mae buddsoddi mewn Cyfrifon Cyflymu Effaith yn ffynhonnell cyllid graidd ar gyfer ein gweithgareddau effaith.

Mae Cyfrifon Cyflymu Effaith (IAAs) UKRI yn cynnig cyllid hyblyg i gefnogi gweithgareddau sy'n helpu i wella'r defnydd o ganfyddiadau ymchwil gan fuddiolwyr a defnyddwyr terfynol, gan gynnwys busnesau, elusennau, y sector cyhoeddus, llunwyr polisi a sefydliadau eraill.

Ein hamcanion

Ein hamcanion yw ariannu prosiectau sydd â'r potensial mwyaf i gyflawni effaith o ymagweddau arloesol a dychmygus tuag at bartneriaeth a chyfnewid gwybodaeth, gan gynnwys:

  • ariannu prosiectau sbarduno a chyflymu sy’n cymryd syniadau newydd o ymchwil i'w defnyddio mewn busnes, cymdeithas a bywyd cyhoeddus
  • cefnogi newidiadau polisi sy'n llywio sut mae sefydliadau'n addasu ac yn gwella eu gwasanaethau, eu prosesau a'u canlyniadau ar gyfer defnyddwyr a buddiolwyr
  • cryfhau rhwydweithiau gyda darpar ddefnyddwyr ymchwil
  • galluogi preswyliadau a chyfnewidiadau sy'n caniatáu i bartneriaid ymuno â ni, a lleoliadau lle mae ein staff yn ymuno â sefydliadau allanol dros dro

Cyllid

Ers 2015, mae bron i £8 miliwn mewn cyllid IAA gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) a'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) wedi galluogi ein hymchwil i ysbrydoli newid byd go iawn yn ein cymunedau a thu hwnt.

Byddwn yn ariannu prosiectau drwy IAA ESRC tan fis Mawrth 2023. Mae ein IAAs UKRI newydd wedi'u cysoni gwerth £3 miliwn yn cwmpasu cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), EPSRC, MRC ac STFC. Ar hyn o bryd, mae'r ESRC y tu allan i'r portffolio IAA UKRI integredig hwn.

star

Mae £7.7 miliwn o gyllid Cyfrifon Cyflymu Effaith UKRI wedi arwain at

Mae cyllid gan UKRI IAA wedi arwain at 225 o brosiectau effaith.

people

240 o bartneriaethau gyda phartneriaid a chymunedau

Rydym wedi datblygu partneriaethau gyda phartneriaid a chymunedau nad ydynt yn academaidd.

tick

Research Excellence Framework

Rydym ni wedi cefnogi 40 o astudiaethau achos REF2021.

Ein Cyfrifon Cyflymu Effaith

Dysgwch am bob cronfa IAA.

Y Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni

Y Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni

Mae ein Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni’n ein helpu i gydweithio’n agos â’r diwydiant, llunwyr polisïau a'r cyhoedd, a hynny er mwyn defnyddio tystiolaeth ymchwil mewn ffyrdd amrywiol ac arloesol.

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Mae ein Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn galluogi ein hymchwilwyr i gael effaith gadarnhaol sy'n gwella canlyniadau i unigolion, yn datblygu cymdeithas, ac yn cryfhau'r economi ledled y DU a thu hwnt.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Mae prosiectau Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n cael eu hariannu gan y Brifysgol yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol ffyniannus i gymdeithas a’r economi drwy ymchwil ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau.

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol

Mae Cyfrif Sbarduno Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn helpu i bontio'r bwlch rhwng ein hymchwil a'i hallbynnau.

Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ffocws Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yw cefnogi gwaith prawf cysyniad a dangos dichonoldeb dulliau ymchwil neu syniadau penodol.

Y Cyngor Ymchwil Feddygol

Y Cyngor Ymchwil Feddygol

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella iechyd pobl drwy ymchwil darganfod meddygol ar y cyd sy'n diwallu anghenion clinigol sydd heb eu diwallu hyd yn hyn.

Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol

Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol

Nod Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol yw cefnogi dyfodol ffyniannus a chynaliadwy drwy droi ymchwil yn gamau gweithredu a newidiadau ymarferol.

Cysylltu

Impact and Engagement Team