Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd busnes a ariennir

Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd ariannu ar gael i hwyluso cydweithio.

Efallai eich bod angen cymorth ariannol i gael rhoi hwb i’ch prosiect. Mae nifer fawr o'n prosiectau ymchwil cydweithredol yn cael eu hwyluso drwy ffrydiau ariannu.

Mae Cyflymu, Cyflymydd Technoleg Arloesedd Iechyd Cymru, yn rhaglen dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. Y nod yw cefnogi a chyflymu o drawsnewid syniadau o'r system gofal iechyd i wasanaethau, cynnyrch a thechnoleg newydd.

Yn rhaglen £24m, mae'n cael ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Grŵp Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru.

Mae gan raglen ymchwil ac arloesi allweddol yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd bron i €90.5 biliwn o gyllid ar gael tan 2027. Mae Horizon Europe yn mynd i'r afael â newid hinsawdd, yn helpu i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ac yn hybu cystadleurwydd a thwf yr UE.

Nod Innovate UK yw cyflymu twf economaidd y DU drwy ysgogi a chefnogi arloesedd dan arweiniad busnes drwy amrywiaeth o gyfleoedd ariannu, Talebau Arloesedd, SMART a chystadlaethau â thema.

Mae KESS II yn fenter wedi’i ariannu’n rhannol sy’n cefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol rhwng y Brifysgol a busnesau. Mae’n cynnig gwobrau Doethurol, MPhil a Meistr Ymchwil i bartneriaid sydd wedi’u lleoli yn ardaloedd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (WWV) yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am KESS II.

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd academaidd i brosiectau strategol busnes bywyd go iawn. Wedi'i ariannu'n rhannol gan y Llywodraeth, mae'r cynllun yn gyfle unigryw ar gyfer cydweithredu rhwng sefydliadau academaidd a busnes.

Efallai eich bod yn gymwys am gymhellion ariannol ar ffurf credydau treth i’ch helpu i fanteisio ar wasanaethau ymchwil a datblygu (R&D) o Brifysgol Caerdydd.

I fod yn gymwys am gredydau treth R&D mae’n rhaid i’ch busnes fodloni’r meini prawf penodol. Os gallwch ateb YDY/OES i’r holl gwestiynau isod efallai y bydd yn werth gofyn am gyngor pellach gan eich cyfrifydd.

  • Ydych chi’n cynnal prosiect sy’n ceisio cyflawni cynnydd mewn gwyddoniaeth neu dechnoleg drwy ddatrys ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol?
  • Ydych chi’n gallu diffinio’r cynnydd rydych chi’n ei geisio?
  • Ydych chi’n gallu dweud pam nad oedd yr ansicrwydd yn gallu cael eu datrys gan weithiwr proffesiynol cymwys?
  • Oes gan eich prosiect ddyddiadau dechrau a gorffen amlwg?
  • Ydy eich R&D yn berthnasol i fasnach bresennol neu un rydych chi’n bwriadu ei sefydlu yn seiliedig ar eich R&D?

I fod â hawl i gredydau treth R&D mae’n rhaid i’r gwaith hyrwyddo gwyddoniaeth neu dechnoleg ac mae’n rhaid i’r cwmni fod agored i dreth gorfforaeth.

Mae yna nifer o gynlluniau rhyddhad ymchwil a datblygu. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyllid a Thollau EM. Credydau Ymchwil a Datblygu (R&D) Treth Cyllid a Thollau EM yw ffynhonnell unigol fwyaf y Llywodraeth ar gyfer cefnogi ymchwil a datblygiad busnes.

Dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae'r gyfres o raglenni SMART integredig yn rhoi amrywiaeth eang o gefnogaeth i fusnesau a sefydliadu ymchwil yng Nghymru.

Mae SMARTExpertise yn cyllido prosiectau Ymchwil a Datblygu yn cynnwys un (neu fwy) sefydliad Ymchwil o Gymru, a mwy nag un partner diwydiannol, gyda'r nod i dyfu amgylchedd Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd a ysgogir gan alw.

Mae SMARTCymru yn cynnig cefnogaeth a chyngor ariannol i BBaCHau a busnesau cychwynnol, ym mhob cam o brosiect ymchwil a datblygu, o ddichonoldeb cychwynnol i ddatblygu'r farchnad.

Mae Partneriaethau SMART yn cyllido prosiectau cydweithio arloesol sydd angen amrywiaeth o arbenigedd i helpu busnesau i dyfu, gwella cynhyrchiant a chynyddu cystadleurwydd.

Mae SMARTInnovation yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i fusnesau sy'n cymryd y camau cyntaf  at arloesedd ac Ymchwil a Datblygu.