Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddiwch ein harbenigedd

Rydym yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau, o bob maint a sector, er mwyn gwneud dyfodol gwell i Gymru a'r byd.

Boed yn ddatrys problem weithredol barhaus neu dorri drwy rwystr meddygol sy'n newid bywyd, gallwch fanteisio ar ein meddyliau ymchwil disgleiriaf neu ddefnyddio ein cyfleusterau ymchwil arloesol i gyflawni eich uchelgeisiau.

  • Gweithiwch gyda ni ar  brosiectau ymchwil cydweithredol i elwa ar adnoddau helaeth, arbenigedd a chyfleoedd cyllido.
  • Manteisiwch ar fynediad at ein harbenigwyr academaidd drwy amrywiaeth o wasanaethau ymgynghori - gan gynnwys profion labordy, dadansoddi ymchwil a chomisiynu gwaith ymchwil penodol - neu drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.
  • Cyrchwch lawer o'r cannoedd o dechnolegau a bron 100 o batentau yn ein  portffolio eiddo deallusol drwy ein tîm Trosglwyddo Technoleg.
  • Cysylltwch â'n academyddion drwy Rwydwaith Arloesi a mynychu ein digwyddiadau rhad ac am ddim ar ystod o bynciau, lle gallwch rwydweithio gyda chwmnïau arloesol eraill.

Rydym yn deall nad yw'r un ateb yn addas i bawb, felly mae ein tîm Datblygu Busnes yn teilwra ein gwasanaethau busnes i gwrdd â'ch set unigryw chi o anghenion.