Ewch i’r prif gynnwys

Manteision aelodaeth

Mae ein Rhwydwaith Arloesedd llwyddiannus iawn yn fwrlwm o syniadau newydd ac enghreifftiau o sut i’w rhoi ar waith.

Syniad mawr, syniad bach

Mae ein cyfarfodydd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.
Mae ein cyfarfodydd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.

Wedi'i sefydlu yn 1996, nod y Rhwydwaith Arloesedd yw datblygu rhwydwaith gryfach o gysylltiadau rhwng diwydiant a'r byd academaidd er mwyn ehangu arloesedd - sef gweithredu syniadau masnachol yn llwyddiannus.

Mae pawb yn manteisio o waith cyfnewid a rhyngweithio’r Rhwydwaith Arloesedd. Mae'r syniadau yn amrywiol iawn a gallant fod yn fach neu'n fawr. Dewch â’ch syniad – neu dewch gydag awydd i arloesi. Gall welliannau bychan, parhaus arwain at gynnydd mawr mewn proffidioldeb. Gall syniadau mawr gynnwys mentrau gwreiddiol, radical – neu edrych ar hen broblem mewn ffordd newydd, ffres.

Cenhedaeth

  • I roi cyfleoedd i gysylltiadau Busnes i Fusnes a Busnes i Brifysgol ar draws disgyblaethau technegol a busnes.
  • I gynnig cyfrwng lle gall sgiliau a gwybodaeth Prifysgol Caerdydd gael eu defnyddio i ddatrys problemau'r diwydiant.
  • I godi ymwybyddiaeth o gefnogaeth arloesedd ac ymarfer da i’r diwydiant.

Manteision i aelodau

  • rhaglen reolaidd o gyfarfodydd gyda’r nos am brif bynciau sy'n berthnasol i fusnesau.
  • eGylchlythyr, yn cynnwys straeon cryno am newyddion a digwyddiadau arloesedd, gyda dolenni i wybodaeth bellach.
  • cyfle i feithrin cysylltiadau a defnyddio adnoddau i'ch helpu i herio’ch problemau ac asesu eich cyfleoedd.
  • cynyddu eich rhwydwaith o gysylltiadau ymysg cwmnïoedd a sefydliadau sy’n awyddus i dyfu a datblygu.
  • gwybodaeth am gyllid i gefnogi ymchwil gydweithredol ac ymgynghoriaeth.
  • cynlluniau i gyfateb â gofynion a chyfleoedd ymchwil a thechnoleg y cyfranogwyr.

Rhwydwaith uchel ei pharch rhwng y Brifysgol, cwmnïau Cymreig a chysylltiadau busnes. Mae'r fenter yn cael ei hystyried fel enghraifft o ymarfer da yn y maes hwn.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru.