Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau ymchwil

Mae ein cyfleusterau byd-eang ar gael i fusnesau a sefydliadau ledled y byd.

I gefnogi ein hymchwil sy'n arwain y byd, rydym yn buddsoddi miliynau i ddatblygu'r cyfleusterau diweddaraf a'r arbenigwyr sy'n gyfrifol amdanynt. Mae llawer o’n hoffer ar gael i'w logi neu ar sail ymgynghorol, ar gyfraddau hynod gystadleuol.

Mae ein cyfleusterau'n amrywio o labordai nodweddu amgylcheddol a gwasanaethau biotechnoleg i systemau tanio tyrbinau nwy, labordai mellt, a Champws Arloesedd Caerdydd.

Mae ein cyfleusterau allweddol yn cynnwys:

The ARCCA Machine Room

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil

Mae Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yng Nghaerdydd (ARCCA) yn cynnig y caledwedd a meddalwedd diweddaraf er mwyn helpu i fynd i'r afael â heriau ymchwil byd-eang ein hoes.

Dadansoddiad Sbectrosgopeg Ffoto-electron Pelydr-x (XPS)

Mae ein sbectromedr yn cyfuno technolegau’r genhedlaeth nesaf i gynhyrchu delweddau meintiol, paralel mewn amser real gyda thechnegau sbectrosgopeg manwl iawn ym mhob maes dadansoddi.

Sganwyr ymennydd

Mae ein technoleg yn cynnwys delweddu cyseinedd magnetig (MRI) gweithredol a strwythurol, technegau magneto-enceffalograffi ac electro-enceffalograffi, a dulliau symbylu magnetig trawsgreuanol.

Labordy goleuadau

Mae gennym rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer profion ac ymchwil ym maes golau, ynghyd â thîm o staff hynod brofiadol.

Profion tyrbin nwy

Mae gennym rai o'r unig gyfleusterau profi tyrbinau nwy yn y byd, gyda nodweddion sy’n eu gwneud yn unigryw

Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru

Defnyddio geneteg i hybu ymchwil, gofal iechyd, addysg ac arloesi.

Campws Arloesedd

Trawsnewid ein hamgylchedd adeiledig i gefnogi newid yn ein gweithgareddau ymchwil ac arloesedd

Cysylltwch

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm cyfleusterau ymchwil:

Cyfleusterau Ymchwil