Recriwtio ein graddedigion
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith heddiw gyda'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Drwy recriwtio ein myfyrwyr a’n graddedigion, byddwch yn cyflogi unigolion talentog, brwdfrydig ac amrywiol sy’n awyddus i ddysgu a rhoi eu sgiliau ar waith.
Mae’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cydweithio â sefydliadau ar draws pob sector, o fusnesau bach a chanolig i gorfforaethau rhyngwladol, i gynnig dull ymgynghorol sy’n seiliedig ar anghenion a gynlluniwyd i gefnogi eich ymgyrchoedd denu a recriwtio. P’un a oes gennych gynllun hyfforddi graddedigion, swyddi mynediad uniongyrchol, lleoliadau myfyrwyr neu gyfleoedd ar gyfer interniaeth, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr a phwrpasol o wasanaethau a digwyddiadau i’ch helpu i ddatblygu eich brand a dod o hyd i dalent ar gyfer y dyfodol.
Recriwtio ein hymchwilwyr
I gael rhagor o wybodaeth neu drafod Recriwtio Ymchwilwyr yn fanylach mae croeso ichi gysylltu â ni: