Ewch i’r prif gynnwys

Recriwtio ein graddedigion

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith heddiw gyda'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Drwy recriwtio ein myfyrwyr a’n graddedigion, byddwch yn cyflogi unigolion talentog, brwdfrydig ac amrywiol sy’n awyddus i ddysgu a rhoi eu sgiliau ar waith.

Mae’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cydweithio â sefydliadau ar draws pob sector, o fusnesau bach a chanolig i gorfforaethau rhyngwladol, i gynnig dull ymgynghorol sy’n seiliedig ar anghenion a gynlluniwyd i gefnogi eich ymgyrchoedd denu a recriwtio. P’un a oes gennych gynllun hyfforddi graddedigion, swyddi mynediad uniongyrchol, lleoliadau myfyrwyr neu gyfleoedd ar gyfer interniaeth, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr a phwrpasol o wasanaethau a digwyddiadau i’ch helpu i ddatblygu eich brand a dod o hyd i dalent ar gyfer y dyfodol.

Recriwtio ein hymchwilwyr

Mae gennym dros 1,500 o fyfyrwyr PhD a thua 800 o staff ymchwil ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mae gan bob un ohonynt gyfoeth o ddoniau, gan gynnwys sgiliau dadansoddi, rheoli prosiectau a chyfathrebu rhagorol.  Er y bydd cyfran o ymchwilwyr yn datblygu eu gyrfaoedd yn sector y prifysgolion, mae llawer yn awyddus i ystyried cyfleoedd gyda chyflogwyr eraill, mawr, mân, cyhoeddus a phreifat.

I gael rhagor o wybodaeth neu drafod Recriwtio Ymchwilwyr yn fanylach mae croeso ichi gysylltu â ni:

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr