Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth

Manteisiwch ar ein sgiliau academaidd a’n harbenigedd i’ch gwneud yn fwy cystadleuol a rhoi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch perfformiad.

Ynglŷn â KTPs

Mae'r rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn creu partneriaeth tair-ffordd ddeinamig rhwng busnes, tîm academaidd arbenigol a myfyriwr graddedig neu ôl-raddedig talentog (y Cydymaith).

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys mwy nag un person cymwys (cydymaith) i hwyluso trosglwyddo sgiliau ac arbenigedd. Maent yn gweithio o fewn eich sefydliad ar brosiect sy'n ganolog i’ch anghenion ac yn cael eu goruchwylio gan bersonél y cwmni ac uwch-academydd.

Mae'r rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan UKRI drwy Innovate UK, wedi bod ar waith ers dros 45 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi galluogi mwy na 14,000 o fusnesau i arloesi er mwyn sicrhau effaith gadarnhaol. KTN yw un o bartneriaid y rhaglen. Mae’n rhoi cymorth arbenigol i holl Gymdeithion a phrosiectau’r rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth drwy ei rwydwaith cenedlaethol o 31 o Gynghorwyr Trosglwyddo Gwybodaeth.

Mae KTP yn cael ei ariannu'n rhannol gan grant. Bydd angen i chi gyfrannu at gyflog y Cydymaith a fydd yn gweithio gyda'ch busnes, ynghyd â chost goruchwyliwr a fydd yn goruchwylio'r cynllun.

Mae'r swm y bydd angen i chi ei gyfrannu yn dibynnu ar raddfa a hyd y prosiect. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint eich cwmni. Yn nodweddiadol:

  • mae busnesau bach a chanolig yn cyfrannu tua £ 30,000 y flwyddyn, tua thraean o gostau'r prosiect
  • mae busnesau mawr yn cyfrannu tua £ 45,000 y flwyddyn, neu hanner costau'r prosiect

Cyllid trydydd sector

Gall busnesau trydydd sector o unrhyw faint dderbyn cyfraniad grant o hyd at 75% o gostau cymwys y prosiect gan Innovate UK, yn amodol ar gap, a bydd y busnes yn talu’r balans. Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor gan KTP i helpu i gynyddu nifer y prosiectau gan fusnesau 3ydd Sector.

Rheoloaeth KTPS

Nod mKTP yw helpu busnesau i wella eu heffeithlonrwydd a'u cynhyrchiant drwy sicrhau defnydd gwell o wybodaeth ac arbenigedd gan dimau Academaidd arbenigol yn Sylfeini Gwybodaeth rhagorol y DU.

Manteision i fusnes

Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn ddewis amgen yn hytrach na threfnu ymgynghoriaeth neu leoliad myfyrwyr, sy'n arwain at amrywiaeth eang o fanteision gan gynnwys:

  • cynnydd proffidioldeb
  • cynnydd perfformiad
  • mantais cystadleuol
  • gwella proses
  • lleihau costau

Mae gennym nifer helaeth o brosiectau KTPs llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau.

Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan y Brifysgol, yn ehangu ein gwybodaeth drwy gydol y datblygiad o’r maes ymchwil ond hefyd yn ymarferol, yn ymgorffori gallu i ni barhau i gynhyrchu cynnyrch arloesol ac aros yn arweinydd y farchnad DU. Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd wedi ein galluogi i fod yn rhan annatod o ymchwil arloesol.

Guy Braverman Cyfarwyddwr a Chyd-Sylfaenydd GAMA Healthcare

Cymryd rhan

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, yna cysylltwch â ni.