Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau Briffio Brecwast yr Ysgol Busnes

Mae'r rhwydwaith hwn yn galluogi i’n cysylltiadau busnes ddarganfod mwy am y gwaith ymchwil diweddaraf a'r datblygiadau allweddol gan ein partneriaid ac mae'n un ffordd yn unig o ymgysylltu gyda'r gymuned fusnes leol a'r gymdeithas ehangach.

Cynrychiolwyr yn rhwydweithio mewn Sesiwn Briffio diweddar yr Ysgol Busnes.
Cynrychiolwyr yn rhwydweithio mewn Sesiwn Briffio diweddar yr Ysgol Busnes.

Mae'r gyfres yn cynnig y cyfle i ymarferwyr busnes, gwneuthurwyr polisi, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill i glywed am ymchwil diweddaraf yr Ysgol ar draws ystod o themâu busnes a rheoli a gan arweinwyr busnes arloesol o amrywiaeth o sectorau.

Rydym yn cynnal tua 10 digwyddiad y flwyddyn ar gyfres o bynciau. Mae nifer dda yn mynychu'r digwyddiadau bob amser gyda lleoedd yn llenwi'n gyflym.

Mae'r pynciau diweddar wedi cynnwys:

  • gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau
  • adeiladu arloesedd mewn sefydliadau
  • denu talent i fusnes
  • rheoli gwybodaeth ac atebolrwydd sefydliadol.

Mynychu sesiynau briffio brecwast

Dewch yn aelod o’r gymuned Addysg Weithredol a mynychu ein sesiynau briffio brecwast. Mae aelodaeth, yn ogystal â phresenoldeb yn ein digwyddiadau, yn gwbl rhad ac am ddim.

Cofrestrwch i ymuno

Digwyddiadau sydd i ddod

Expert

Digon ar Arbenigwyr?

CalendarDydd Iau 18 Ebrill 2024, 08:30

Rydym bob amser yn awyddus i glywed awgrymiadau am bynciau a themâu newydd ar gyfer sesiynau briffio yn y dyfodol ac yn croesawu adborth ar y sesiynau.

Addysg Weithredol