Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Mae ein rhaglenni israddedig sy'n berthnasol i alwedigaethau wedi eu dylunio er mwyn cydbwyso theori a gwaith ymarferol, yn eich helpu i ddod i'r brig mewn marchnad swyddi gystadleuol.

Rydym yn cynnig ystod eang o bynciau modiwl ym mhob rhaglen gradd, sy'n eich galluogi i deilwra eich gradd wrth iddo ddatblygu er mwyn gweddu eich diddordebau a'ch uchelgeisiau gyrfa.

Yn ogystal â hyblygrwydd ein rhaglenni, er mwyn ategu at eu trylwyredd, rydym wedi cyflwyno nifer o gyfleoedd newydd i chi wella eich astudiaeth ac i'ch paratoi chi ar gyfer yr heriau gallwch wynebu yn y byd busnes cyfoes.

Accounting and Finance

Our Accounting and Finance programmes offer a challenging and stimulating combination of applied and academic study.

Business Management

Our BSc Business Management programme provides a broad education across the range of business and management subjects and can be tailored to your professional interests.

Economics

We offer a broad selection of modules with an emphasis on applied economics and monetary and financial economics.

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Canolbwyntiwch ar eich dyfodol drwy wneud lleoliad gwaith neu interniaeth.

Astudio dramor fel rhan o’ch gradd israddedig

Cewch archwilio ffiniau pell, croesawu arferion newydd a gwerthfawrogi diwylliannau gwahanol drwy astudio dramor fel rhan o’ch gradd.

International students

Find out more about the specialised support we give international students in the Business School.

Gwella eich sgiliau iaith

Rydym yn byw mewn economi byd-eang lle mae sgiliau iaith wedi dod yn fwyfwy deniadol i gyflogwyr. Gan hynny, rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd i ychwanegu elfen ryngwladol i'ch astudiaethau:

  • Gallwch astudio cyfrifeg, bancio a chyllid, economeg busnes, rheoli busnes neu economeg ar y cyd â Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg a threulio eich trydedd flwyddyn yn astudio dramor yn un o'n prifysgolion partner mawreddog.
  • Fel arall, gall fyfyrwyr Bsc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) dreulio semester dramor (wrth astudio drwy gyfrwng y Saesneg).

Profiad gwaith

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyflogadwyedd a chynnwys profiad gwaith ymarferol yn ein rhaglenni::

  • Gallwch newid i gwrs pedair blynedd gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol, lle byddwch yn treulio blwyddyn mewn diwydiant yn gweithio llawn amser a'n derbyn cyflog.
  • Gall fyfyrwyr Bsc Cyfrifeg gymryd mantais o Raglen Partneriaeth Israddedig Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ac ennill blwyddyn o brofiad gwaith mewn cwmni cyfrifeg neu amgylchedd busnes tebyg.
  • Gall fyfyrwyr Bsc Rheoli Busnes wneud cais i dreulio ail semester yr ail flwyddyn yn gweithio gyda chwmni partner yn llawn amser, yn derbyn cyflog.