Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Rydym yn cynnig amgylchedd ymchwil ac addysgu gwirioneddol ryngwladol mewn prifysgol sy’n rhan o’r Grŵp Russell.

Ein rhaglen PhD

The PhD programme will prepare you either for a career as a leading academic scholar or to excel as a business practitioner or senior public policy decision maker.

Fel myfyriwr PhD byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i'n cymuned ymchwil ac academaidd. Byddwch yn cael offer, cymorth a'r cyfle i gyfrannu at ddatblygiad gwybodaeth ac i gynhyrchu effaith yn eich maes academaidd a ddewisiwyd gennych.

Cyllid

Trwy Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru ESCR sydd wedi’i lleoli yn y Brifysgol, rydym yn gallu cynnig ysgoloriaethau PhD ESRC ar gyfer Busnes, Rheoli ac Economeg bob blwyddyn.

Mwy o wybodaeth am ein cyfleoedd cyllid.

Hyfforddiant

Rydym hefyd yn cynnig ystod o ddewisiadau hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr PhD, sy'n cynnwys cyfuniad o fodiwlau cyffredinol ac arbenigol.

Gall ein myfyrwyr Astudiaethau Busnes hefyd gwblhau MSc llawn mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd wedi ei gydnabod gan ESRC ac wedi ei gynnal ar y cyd gyda'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol.

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn dangos hyfforddiant a dealltwriaeth gadarn o ddulliau ymchwil yn eu cais yn cael eu derbyn i astudio ein PhD wedi iddynt gwblhau'r MSc mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhaglenni doethurol

Rydym yn cynnig y rhaglenni doethurol canlynol:

Themâu ymchwil

Caiff ein hymchwil ei drefnu yn ôl ein disgyblaethau:

Fodd bynnag, o fewn y meysydd hyn mae goruchwyliaeth ar gael ar draws ystod eang o bynciau ymchwil. Anogir ymgeiswyr i adolygu ein grwpiau ymchwil a diddordebau ymchwil ein haelodau o staff.

Cysylltu

Ysgol Busnes Caerdydd Swyddfa Ymchwil