Ewch i’r prif gynnwys

Gwerth cyhoeddus

Ar ddiwedd 2015, gwnaethom ymrwymo ein hunain yn gyhoeddus i strategaeth newydd gyffrous a fyddai'n llywio ein hymchwil a'n haddysgu, ac yn golygu mai ni fyddai'r ysgol busnes cyntaf yn y byd i roi gwerth cyhoeddus wrth wraidd ei gweithrediadau.

Yn syml, rydym yn ceisio cyflwyno gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiad economaidd. Rydym yn gwneud hyn drwy gydnabod rôl busnes a rheolaeth wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr yn y gymdeithas gyfoes.

Drwy groesawu gwaith rhyngddisgyblaethol gyda chydweithwyr academaidd, partneriaid busnes a’r trydydd sector, credwn y gallwn helpu i ddatrys amrywiaeth o broblemau cymdeithasol ac ailddiffinio sut mae pobl yn meddwl am fusnes a rheolaeth.

Mae ymgorffori'r ethos newydd hwn yn ein hymchwil, addysgu a dysgu yn uno ein sylfaen academaidd amlddisgyblaethol wrth ddefnyddio eu galluoedd i ennyn gwelliannau cymdeithasol ac economaidd.

Mae hefyd yn gwella sgiliau a gwybodaeth ein myfyrwyr a meithrin teimlad moesol, neu ddychymyg cydymdeimladol, tuag at welliant cymdeithasol ac economaidd. Dyma ddechrau proses ailwampio radical o'r ffordd yr ydym yn gweithio a bydd ein llwyddiant yn esiampl i eraill ei ddilyn.

Ysgol busnes gwerth cyhoeddus

Diben Ysgol Busnes Caerdydd yw cyflawni gwerth economaidd a chymdeithasol drwy addysgu, ymchwil, ymgysylltu ac effaith ryngddisgyblaethol sy’n mynd i’r afael â heriau mawr ein hoes.