Ewch i’r prif gynnwys

Optimeiddio Ymadferiad y Pen-glin (REHAB PEN-glin)

Mae ein hymchwil yn ymdrin â sut y gallwn ddefnyddio dadansoddi a thechnoleg biofecanyddol er mwyn optimeiddio ymadferiad y pen-glin a deall iachâd ac ymadfer swyddogaethol yn sgil anaf i'r pen-glin.

Parheir ffisiotherapi i fod yn gonglfaen ar gyfer rheoli a thrin â chyflyrau cyhyrysgerbydol. Serch hynny, mae pryderon yn bodoli o hyd ynghylch sut i asesu symudiad yn gywir er mwyn gwerthuso cynnydd, darparu adborth i’r claf a phenderfynu ar ddewisiadau priodol o ran triniaeth. Y prif reswm am hyn, yn y bôn, yw bod asesiad yn cael ei gynnal gan ddefnyddio mesurau canlyniadau goddrychol neu offer anghyson.

Mae ein hymchwil wedi mynd i'r afael â'r angen hwn (sydd heb ei ddiwallu hyd yma) drwy ddatblygu tŵlcit cludadwy newydd. Gan ddefnyddio technoleg fforddiadwy y gellir ei gwisgo, mae’r offer hyn yn caniatáu asesiad ac adborth amser real ar symudiad y claf ar gyfer cleifion a chlinigwyr.

Cam nesaf yn ein hymchwil bydd integreiddio'r tŵlcit hyn i ymyrraeth ffisiotherapi newydd. Cyn mynd ati i wneud hynny, bydd angen inni werthuso agweddau defnyddwyr terfynol (clinigwyr a chleifion) ar ofynion y defnyddiwr, y manteision, y rhwystrau a’r hwyluswyr posibl i’r integreiddio yma mewn gofal iechyd.