Ewch i’r prif gynnwys

Grwpiau Ymchwil ac Ysgolheictod

Mae ein harbenigedd wedi'i glystyru i bum prif faes, ar ffurf cyfres o grwpiau ymchwil ac ysgolheictod.

Mae’r grwpiau’n helpu i ddod â staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ynghyd drwy themâu a methodolegau penodol, cynyddu’r synergeddau rhwng ymchwil ac addysgu, nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwil cydweithredol a meithrin diwylliant ymchwil cynhwysol yr ysgol. Maent hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a all gynnwys lansio llyfrau a seminarau sy'n cynnwys siaradwyr gwadd.

Grŵp Dulliau Cyfrifiadurol ym maes Pensaernïaeth

We are enhancing architectural design, analysis, and production through advanced digital methods.

Landscape image of an Indian town with mountains in background

Grwp Trefolaeth

Rydym yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd i archwilio rôl trefolaeth wrth lunio mannau trefol a mannau cyhoeddus yn greadigol.

Hanes, Treftadaeth a Chadwraeth

Mae’r Grŵp Ymchwil ac Ysgolheictod Hanes, Treftadaeth a Chadwraeth yn dod â gwybodaeth amlddisgyblaethol ac arbenigedd traws-sector at ei gilydd gan alluogi cydweithio ymhlith ei aelodau amrywiol.

Rydym yn ystyried y croestoriadau rhwng hanes pensaernïol, astudiaethau treftadaeth, cadwraeth a rheoli adeiladau. Mae’r pynciau ymchwil a drafodwyd gan y grŵp yn cynnwys: rheoli a chadwraeth treftadaeth gynaliadwy, astudiaethau treftadaeth beirniadol, treftadaeth a chof, treftadaeth ddadleuol, treftadaeth ddigidol, trawsnewid ynni mewn cyd-destunau treftadaeth, treftadaeth a hanes diwydiannol, treftadaeth a hanes trefol, theori gymdeithasol a gwleidyddol, hanes a theori dylunio, treftadaeth a dylunio pensaernïol cyfoes, treftadaeth ryngddiwylliannol, a hanes pensaernïol mewn cyd-destunau nad ydynt yn Orllewinol.

Mae’r grŵp yn mynd i’r afael â’r materion hollbwysig sy’n dod i’r amlwg yn y meysydd pwnc, gan gynnwys dad-drefedigaethu, yr argyfwng hinsawdd, cynaladwyedd, amrywiaeth a chynwysoldeb, a phontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd ac arferion proffesiynol.

Prosiectau

Embodied pedagogies

Addysgeg wedi'i ymgorffori: cyflwyno 'arwahanrwydd' mewn addysg bensaernïol

Mae'r ymchwil yn archwilio gwerth addysgol a moesegol addysgeg wedi'i ymgorffori ac addysgeg arwahanrwydd i addysg bensaernïol.

Terrestrial Laser Scan of Port Eynon, April 2021

Harbourview

Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd porthladdoedd fel treftadaeth arfordirol.

An archtectural drawing of the Temple of Ashapuri, India.

Temlau Ashapuri

Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer adfer, cadwraeth a chyflwyniad tua chwech ar hugain o demlau canoloesol adfeiliedig yn Ashapuri.

A damp interior

Cynnal a chadw cydberthynol, effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd ar gyfer adeiladau traddodiadol yn y DU

Mae'r astudiaeth yn chwilio am lwybrau i ddangos y gallai gwaith cynnal a chadw gwell ar adeiladau traddodiadol leihau costau ynni yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Exterior of an old library

Cyfnod Silff (Shelf-Life): Ailddychmygu dyfodol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Carnegie

Mae Silff-Life yn gofyn a allai’r broses o gaffael dros 2600 o adeiladau cyhoeddus ledled Prydain ac America a reolir yn unigryw tua 100 mlynedd yn ôl gan Raglen Llyfrgell Carnegie elwa ar rywfaint o feddwl systematig ar gyfer eu hailfywiogi ar adeg o argyfwng.

AoA

Pensaernïaeth Arwahanrwydd: Corff / Cyfryngau / Gofod

Rydym yn cefnogi’r gwaith o archwilio pensaernïaeth hanesyddol a chyfoes o arwahanrwydd yn rhyngddisgyblaethol ac yn cychwyn trafodaethau ar sut y gall dyluniad herio trefn ddiwylliannol a chefnogi anheddau mwy amrywiol a chynhwysol o’r gorffennol i’r presennol.

Cyhoeddiadau

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.

AI generated image of family looking through window

Ynni, yr Amgylchedd a Phobl

We work together to develop evidence-based solutions to critical issues of energy and sustainability within the built environment.

Ymchwil Dylunio ac Ymarfer Proffesiynol

Trwy hyrwyddo ymchwil dylunio beirniadol ac ymarfer proffesiynol o fewn pensaernïaeth, gallwn fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas a'r blaned.

Mae ein grŵp ymchwil yn dod ag arbenigwyr ynghyd sy’n gweithio mewn ymarfer creadigol, ymchwil dylunio sy’n seiliedig ar ymarfer ac a arweinir gan ymarfer ynghyd ag ymchwil sy’n gysylltiedig ag ymarfer pensaernïaeth ac ysgolheictod o fewn addysgeg ac ymarfer pensaernïol.

Gyda'n gilydd rydym yn edrych ar y croestoriadau rhwng parthau academaidd a phroffesiynol; cyfrwng pensaernïol a ffurf y proffesiwn pensaernïol; a thirwedd newidiol ymchwil, addysg a datblygu proffesiynol ym maes pensaernïolaeth. Trwy gysylltu ymchwil academaidd wreiddiol, trwyadl â chymunedau ymarfer allanol y diwydiant adeiladu ehangach, rydym yn dylanwadu ar newid ac effaith dylunio o fewn pensaernïaeth.

Prosiectau

Prosiectau eleni

  • Cartrefi heddiw ar gyfer yfory: Datgarboneiddio Tai Cymru rhwng 2020 a 2050.
  • Cartrefi i Genedlaethau'r Dyfodol – saith traethawd a chwe astudiaeth achos
  • Barnhaus (prosiect adeiledig, Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Ecoleg Gwacterau Trefol Ewro-Ganoldirol (EMUVE)

Prosiectau y llynedd

  • Iard Walmer Peter Salter
  • Camau i Ddatgarboneiddio Cartrefi Presennol yng Nghymru

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.