Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Rydym yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU. Fe'n rhestrir yn gyson ymhlith y 5 Ysgol Pensaernïaeth gorau mewn tablau cynghrair pwnc yn genedlaethol.

Mae'r Ysgol hefyd yn gyson ymhlith y 50 sefydliad gorau yn fyd-eang ym maes pensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig (QS World University Rankings by Subject 2022).

Mae ein hanes hirsefydlog o ragoriaeth addysgu'n golygu bod ein rhaglenni i israddedigion ac ôl-raddedigion a’n rhaglenni ymchwil yn boblogaidd a bod galw mawr am ein graddedigion.

Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd i astudio mewn meysydd sy’n gysylltiedig â'n harbenigedd ymchwil eang. Mae ein graddau BA Astudiaethau Pensaernïol (Rhan 1), Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch, Rhan 2) a Diploma/MA Astudiaethau Proffesiynol (Rhan 3) wedi'u cymeradwyo gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB).

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi gwneud swyddi blaenllaw yn eu dewis feysydd ar ôl gorffen eu haddysg, gan gynnwys swyddi pensaernïol ledled y byd ac yn y byd academaidd.

Darganfod ein rhaglenni

Israddedig

Israddedig

Nod ein rhaglenni Israddedig yw cynnig y sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion Ysgol Pensaernïaeth Cymru i ddylunio a chreu adeiladau hyfryd sy'n ymateb i gyd-destunau technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a phroffesiynol sy'n newid.

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Mae ein rhaglenni ôl-raddedig cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau sy'n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil a'n harbenigedd mewn cynaliadwyedd, cadwraeth, astudiaethau proffesiynol, a dylunio trefol.

Ymchwil ôl-raddedig

Ymchwil ôl-raddedig

Rydym yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ymchwil weithio ac astudio ochr yn ochr ag academyddion sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol.