Ewch i’r prif gynnwys

Labordy roboteg bensaernïol

Mae’r Labordy Roboteg Bensaernïol yn cael ei ddefnyddio er mwyn ymchwilio i ffyrdd newydd o greu â thechnolegau robotig.

Robotic arm

Mae breichiau robotig mewn pensaernïaeth wedi’u defnyddio yn y gorffenol i adeiladu waliau bric, deunydd melin CNC drwy ddefnyddio gwerthydau cyflymder uchel, arwynebau deugrwm drwy ddefnyddio torrwr gwifrau-poeth, adeiladu arwynebau cymhleth drwy ddefnyddio technegau gweu, ac adeiladu gosodiadau celf drwy ddefnyddio polymerau thermo-osod.

Dan arweiniad Dr Wassim Jabi, mae’r ymchwil hon yn ystyried potensial am adeiladu robotig a chynhyrchu digidol mewn pensaernïaeth.

Ymchwil ôl-raddedig

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr PhD i weithio gyda ni yn y maes hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal ymchwil ar lefel PhD ym meysydd gweithgynhyrchu digidol a robotig mewn pensaernïaeth, cysylltwch â Katrina Lewis drwy ebostio LewisK2@caerdydd.ac.uk.

Rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd ymchwil i ôl-raddedigion.

Manyldeb robotiaid - KR 60 HA (CYWIRDEB UCHEL)

Mae robotiaid cyfres HA wedi’u dylunio ar gyfer manylebau cywirdeb-uchel ac yn arbennig o addas ar gyfer cymwysiadau laser neu fesur cydrannau.

Llwythau

Llwyth60kg
Llwythau ychwanegol35kg

Amlen waith

Cyrraedd uchaftua 2000mm
Nifer o echelinau6
Y gallu i’w wneud eto<±0,05 mm