Meddygaeth
Syr Keith Peters
MBBCh 1961
Roedd Syr Keith yn Athro Regius mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Caergrawnt rhwng 1987 a 2005, lle bu hefyd yn bennaeth yr Ysgol Meddygaeth Glinigol.
Cydnabuwyd ei ymchwil i glefyd imiwnolegol yr arennau gan Gymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol ac Aelodaeth o Gymdeithas Athronyddol America.
Yr Athro Julie Williams CBE
PhD 1987
Mae Julie yn Athro Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ffigwr blaenllaw ym maes ymchwil Alzheimer. Gosododd cylchgrawn TIME ei gwaith ymhlith eu deg datblygiad meddygol gorau yn 2009. Hi yw Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ac mae wedi gwasanaethu ar y Cyngor Ymchwil Feddygol i Niwrowyddoniaeth a Bwrdd Cynghori Gwyddonol Alzheimer’s Research UK.
Dr Quentin D Sandifer
MPH 1995
Quentin yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd y Cyhoedd Ymddiriedolaeth GIG Cymru.
Mae'n Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Adran Heintiau ac Iechyd y Boblogaeth.
Quentin hefyd yw Sylwedydd Cymru ar Fwrdd Cynghori Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Dr Alison Ng
BSc 2006; PhD 2014
Optometrydd ymchwil clinigol yw Alison.
Mae canfyddiadau ei hymchwil wedi ymddangos yn Eye and Contact Lens, cyfnodolyn swyddogol a adolygir gan gymheiriaid Gymdeithas Lensys Cyffwrdd yr Offthalmolegwyr.
Mae hi hefyd yn ysgrifennu ar gyfer ContactLensUpdate.com, offeryn cyfeirio CCLR ar gyfer clinigwyr gofal llygaid.
Dr John Rees
MBBCh 1984
Mae John yn radiograffydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW) ac yn Gyfarwyddwr Clinigol Canolfan Delweddu PET Ymchwil a Diagnostig Cymru. Ef hefyd yw prif hyfforddwr rhaglen hyfforddi meddygaeth niwclear a achredwyd yn genedlaethol ar gyfer cofrestryddion arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), a sefydlodd yn 1999.
Yr Athro Alice Roberts (BSc 1994, Anrh 2019)
Anatomegydd, osteoarchaeolegydd, anthropolegydd corfforol, palaeopatholegydd, cyflwynydd teledu ac awdur.
Dr Andrew Carson-Stevens (MPhil 2010, MBBCh 2010)
Darlithydd gwella gofal iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol British Columbia.
Dr Mair Hopkin (MBBCh 1980)
Hyfforddwr Meddyg Teulu, tiwtor israddedigion, arholwr a Deon Cyswllt yn yr Adran Ymarfer Cyffredinol Ôl-raddedig.
Dr Marisol Vazquez (PhD 2013)
Gwyddonydd ymchwil yn y meysydd peirianneg cyhyrysgerbydol a meinwe.
Leo Cheng (LLM 2007)
Llawfeddyg ymgynghorol y geg, y genau a’r wyneb, y pen a’r gwddf.
Gallwch gymryd rhan mewn detholiad o weithgareddau, er enghraifft trefnu digwyddiad, neu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr drwy wirfoddoli.