Awduron sydd wedi ennill gwobrau
Gillian Clarke
BA 1958, Hon 1984
Mae Gillian yn un o awduron cyfoes mwyaf dylanwadol a phoblogaidd Cymru. Yn 2008, daeth yn drydydd Bardd Cenedlaethol Cymru. Yn 2010, enillodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth. Cyrhaeddodd ei chyfrol, "Ice", restr fer Gwobr T.S. Eliot yn 2012. Cafodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol yn 1984.
Tim Price
BA 2001
Mae Tim yn ddramodydd ac yn awdur sgriptiau.
Enillodd Wobr newydd James Tait Black o £10,000 yng Ngŵyl Caeredin yn 2013 am ei ddrama, "The Radicalisation of Bradley Manning".
Mae ei weithiau Saesneg eraill yn cynnwys "The Internet is a Serious Business" a "Protest Song", a lwyfannwyd yn Theatr y Royal Court a'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.Insert New Container
Siân Preece
MA 2010
Enillodd stori fer Siân, "Getting Up", y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies Llenyddiaeth Cymru yn 2009. Cyrhaeddodd y rownd derfynol hefyd yng nghystadleuaeth Stori Fer Macallan yn 1999. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o antholegau ac mae ei straeon a'i dramâu wedi'u darlledu ar Radio 4. Mae hi hefyd wedi cynhyrchu colofnau ac adolygiadau ar gyfer papurau newydd yr Alban, a chyfryngau radio a theledu'r BBC.
Joanne Meek
MA 2013
Enillodd Joanne y drydedd wobr yng Ngwobr Stori Fer Costa am ei gwaith, "Jellyfish", stori dynes sy'n dychwelyd gyda'i phlant i'w chynefin glan y môr.
Roedd "Jellyfish" yn rhan o'i thraethawd hir ar gyfer ei MA ym maes Ysgrifennu Creadigol.
Susmita Bhattacharya
MA 2007
Mae Susmita yn fardd ac yn awdur straeon byrion. Ymddangosodd ei gwaith mewn nifer o gyhoeddiadau yn cynnwys Wasafiri, Penguin Unplugged, a The View from Here.
Darlledwyd ei stori fer, "Summer of Learning" ar BBC Radio 4. Yn 2009, enillodd Wobr Stori Fer Sulekha a Gwobr Cyngor Dinas Plymouth.
Yr Athro Bernard Henry Knight CBE (MBBCh 1954, PhD 1964)
Awdur y gyfres "Crowner John".
John Rickards (BEng 1999)
Gweld detholiad o deitlau a ysgrifennwyd gan ein cymuned o gynfyfyrwyr.