Ewch i’r prif gynnwys

Ceisiadau am ddogfennau a thystlythyrau

Gallwch ddilysu astudiaethau, tystysgrifau neu drawsgrifiadau newydd.

Os gwnaethoch raddio ar ôl Gorffennaf 2017 gyda gradd ôl-raddedig neu israddedig, ewch i dudalen Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR). Mae HEAR yn disodli copïau caled y trawsgrifiad ar gyfer astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig o Orffennaf 2017 ymlaen am gopi electronig, a gellir eu rhannu gyda thrydydd parti fel cyflogwyr ar-lein drwy eich cyfrif Gwirio gyda Phrifysgol Caerdydd.

Os gwnaethoch raddio cyn Gorffennaf 2017 dilynwch y manylion isod.

MathManylionCyswllt
Tystysgrifau newyddAr gyfer graddau/dyfarniadau a dderbyniwyd cyn 30 Medi 2005Prifysgol Cymru
Tystysgrifau newyddAr gyfer graddau/dyfarniadau a dderbyniwyd ar 1 Hydref 2005 neu ar ôl hynnyCofrestrfa Prifysgol Caerdydd
TrawsgrifiadauAr gael ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig modiwlaidd o 1 Hydref 2005 ymlaen ac ar gyfer rhaglenni israddedig o 1 Hydref 1998Cofrestrfa Prifysgol Caerdydd
Cadarnhad o'ch astudiaethTystiolaeth eich bod wedi astudio yma neu gadarnhad o ddosbarth eich graddCofrestrfa Prifysgol Caerdydd

Sylwer y gall tâl gael ei godi ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Cysylltwch â ni

Er mwyn gwneud cais am ddogfennau, cysylltwch â:

Registry

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, nodwch ba ddogfennau sydd eu hangen arnoch a’r wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

  • enw llawn (yn ystod eich amser yng Nghaerdydd)
  • dyddiad Geni
  • eich rhaglen astudio
  • blwyddyn cwblhau’r rhaglen
  • rhif Myfyriwr (os yw’n hysbys)

Ceisiadau am gyfeirnod

Cyflogwyr ac asiantaethau recriwtio

Caiff ceisiadau cyfeirio ar gyfer graddedigion a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eu dilysu drwy’r Higher Education Degree Datacheck (Hedd). Mae Hedd yn wasanaeth swyddogol i gyflogwyr ac asiantaethau recriwtio (ac yn ychwanegol i nodiadau, llysgenadaethau a chynghorau) i wirio cymhwyster gradd unigolyn yn y DU.

Rhaid i ymholwyr trydydd parti fel cyflogwyr, asiantaethau a llysgenadaethau wirio presenoldeb a gwobrau gan ein prifysgol gyda Prospects Hedd. Mae dilysiad Hedd yn cadarnhau enw'r ymgeisydd, math o gymhwyster, enw’r cwrs, blwyddyn y dyfarniad, y dosbarthiad a gafwyd a dyddiadau presenoldeb.

Ewch i wefan Hedd i gofrestru. Codir tâl o £14 am bob ymholiad a rhaid i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig yr unigolyn. Er mwyn atal oedi, rhowch fanylion yr ymgeisydd fel y maent yn ymddangos ar eu tystysgrif gradd.

Ni fydd y Gofrestrfa yn gallu prosesu’r cais os cysylltir â hi’n uniongyrchol a bydd yn cyfeirio eich cais yn ôl atoch i’w gyflwyno i Hedd.

Os oes gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau wrth gyflwyno’ch cais, anfonwch e-bost at heddhelp@prospects.ac.uk

Myfyrwyr a graddedigion

Os ydych yn fyfyriwr neu’n raddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch gadarnhau eich gradd drwy gysylltu â’r Gofrestrfa ym Mhrifysgol Caerdydd. Dim ond i drydydd partïon y mae Hedd ar gael.

Ceisiadau am geirda academaidd

I ddod o hyd i gyfeiriad academaidd neu hen faes llafur, cysylltwch â’ch Ysgol yn uniongyrchol.