Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad personol a phroffesiynol

Mae Addysg Barhaus a Phroffesiynol yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan amser sy’n ceisio hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol. Mae cyrsiau ar gael ar lefelau ac ar adegau sy’n addas i chi.

Dewisiadau

Mae rhaglen Dewisiadau yn cynnig dros 400 o gyrsiau achrededig rhan amser fforddiadwy bob blwyddyn mewn amryw o bynciau, gan gynnwys: Astudiaethau Cyfrifiadurol, Busnes a Rheolaeth, y Dyniaethau, Astudiaethau Cymdeithasol, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith, Ieithoedd Modern a Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd.

Cynhelir llawer o’r cyrsiau ar nosweithiau neu benwythnosau i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith prysur.

Datblygiad proffesiynol

Mae gan Addysg Barhaus a Phroffesiynol hefyd raglen datblygiad proffesiynol sy’n cynnig cyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar sgiliau penodol i’r gweithle, gan gynnwys:

  • Rheoli Prosiectau
  • Marchnata a Chyfathrebu Ar-lein
  • Ystadegau
  • Rheoli a Datblygu Perfformiad
  • Sgiliau Cyfathrebu
  • Cyfrifeg a Chyllid
  • Iaith a Diwylliant
  • Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r tîm datblygiad proffesiynol yn cynnig cyrsiau pwrpasol hefyd.

Ymunwch ag Addysg Barhaus a Phroffesiynol ar Facebook neu dilynwch nhw ar Twitter.