Cefnogaeth i entrepreneuriaid
Mae’r Tîm Mentro a Dechrau Busnesau yn gallu eich cefnogi wrth i chi ddatblygu sgiliau ar gyfer sefydlu busnes, hunan-gyflogaeth ac arloesedd.
Mae gan gynfyfyrwyr fynediad at y gwasanaethau canlynol hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio:
- cyfleoedd i rwydweithio
- digwyddiadau siaradwyr gwadd
- gweithdai sgiliau a dechrau busnes
- cyngor busnes un-i-un
- mynediad at le swyddfa am ddim i ddechrau busnes (niferoedd cyfyngedig).
Gwobrau Cychwyn Busnes y Gwanwyn
Ceisiadau yn cau ar 11 Mawrth 2024
Mae'r Gwobrau Dechrau Busnes, a noddir gan Santander, yn cynnig cyfle i raddedigion Prifysgol Caerdydd gyflwyno eu syniadau busnes ar gyfer gwobrau ariannol hael y gallwch eu defnyddio i dyfu eich busnes. Bydd y gwobrau hyn yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb gyda chynulleidfa a byddant yn cael eu cynnal mewn arddull Dragon's Den . Bydd gan y gwobrau hyn ddetholiad o gategorïau sy'n agored i'r rhai ar gamau syniad, datblygu a lansio eu busnes.
Y categorïau blwyddyn yma yw:
Gwobr Syniad Ysbrydoledig
Ydych chi yn y camau cynnar o fod eisiau dechrau eich busnes eich hun? Oes gennych chi syniad rydych chi'n gweithio arno? Dyma'r gwobrau i chi!
- £1,000 prif wobr
Gwobr Datblygiad Arloesol
Ydych chi'n datblygu syniad ond nid ydych chi'n barod i lansio? A fyddai mwy o amser ac arian yn eich helpu i gael eich busnes ar waith? Dyma'r gwobrau i chi!
- £3,000 prif wobr
Gwobr Sylfaenydd Eithriadol
Ydych chi wedi lansio busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf neu a ydych chi i fod i lansio cyn Medi 2024? Ydych chi'n chwilio am gyllid a chydnabyddiaeth ychwanegol i helpu i dyfu eich busnes? Dyma'r gwobrau i chi!
- £5,000 prif wobr
Gwobr Peirianwyr Ysbrydoledig (Agored i raddedigion Peirianneg yn unig)
Ydych chi'n beiriannydd sydd â syniad a allai ddatrys problem neu wneud gwahaniaeth? Ydych chi'n meddwl bod gan eich syniad y posibilrwydd o fod yn realiti? Dyma'r gwobrau i chi!
- £1500 am safle cyntaf
- Gwobr o £1000 am yr ail safle
- £500 am y trydydd safle
Croesawu ceisiadau unigol a thîm.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am unrhyw un o'r gwobrau uchod, cofrestrwch i'r llwybr Dechrau Busnes a Llawrydd ar eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr a byddwch yn derbyn y ffurflen gais.