Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltu â hen ffrindiau

Os ydych wedi colli cysylltiad â ffrind o Brifysgol Caerdydd, gallwn eich helpu i ailgysylltu â nhw.

Yn unol â’n polisi diogelu data, nid yw’n bosib i ni ddatgelu gwybodaeth bersonol am eich ffrind. Ond gallwn ni eu ffonio neu anfon ebost atynt ar eich rhan a gofyn iddyn nhw gysylltu â chi.

Anfonwch ebost at alumni@caerdydd.ac.uk â manylion am eich ffrind, fel:

  • Eu henw llawn
  • Y flwyddyn wnaethon nhw raddio
  • Eu cwrs
  • Eu dyddiad geni

Ysgrifennwch neges i ni ei anfon ymlaen at eich ffrind - a rhowch ganiatâd i ni rannu eich manylion cyswllt â’ch ffrind hefyd - ac fe wnawn ni’r gweddill.