Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd ar ôl Caerdydd

Ein graddedigion yn dathlu wedi graddio
Ein graddedigion

Mae’r profiadau a gewch yng Nghaerdydd yn mynd y tu hwnt i’ch amser ar y campws. Mae’n aelodaeth rad ac am ddim i gymuned o dros 210,000 o gynfyfyrwyr.

Mae ystod o wasanaethau dethol ar gael i gynfyfyrwyr i cyfoethogi eich bywyd ar ôl graddio. Er mwyn manteisio ar y gwasanaethau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion.

Cyngor gyrfaol a chymorth

Gall Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael mynediad at amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth gyrfaoedd sydd wedi'u cynllunio i wella eu cyflogadwyedd graddedigion.

Cefnogaeth i entrepreneuriaid

Os oes gennych syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol, neu eisiau ennill sgiliau newydd rydym yma i’ch cefnogi chi.

Datblygiad personol a phroffesiynol

Mae’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser wedi’u hanelu at ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Cysylltu â hen ffrindiau

Os ydych wedi colli cysylltiad gyda ffrind neu ffrind cwrs, gallwn ni eich helpu i ailgysylltu.

Gostyngiad ar astudiaethau ôl-raddedig

Os ydych chi'n ystyried astudiaethau pellach, gallech elwa o’r cynllun gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. A chithau’n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, rydych chi'n gymwys i gael gostyngiad o 20% oddi ar ffioedd dysgu ar raglenni meistr amser llawn a rhan-amser cymwys ar y campws.

Gwasanaethau llyfrgelloedd

Fel cynfyfyriwr mae gennych fynediad at lyfrgelloedd y Brifysgol a gallwch fenthyg hyd at 6 eitem ar y tro, heb gynnwys eitemau benthyciad byr. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim am y flwyddyn gyntaf, ac yn costio dim ond £10 y flwyddyn wedi hynny. Mae rhai adnoddau electronig penodedig ar gael hefyd drwy ddefnyddio’r mynediad Cerdded-i-Mewn i’n gwasanaeth Adnoddau Electronig.

Ebostiwch senglib@caerdydd.ac.uk neu librarymembership@caerdydd.ac.uk os oes gennych ymholiadau ynghylch aelodaeth neu ewch i dudalen y Llyfrgelloedd i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfleusterau chwaraeon

Gall cynfyfyrwyr sy’n aros yng Nghaerdydd gael aelodaeth i holl gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff y Brifysgol am bris gostyngol.

Er mwyn ymaelodi, ewch i ganolfan Ffitrwydd a Sboncen Prifysgol Caerdydd ar Blas y Parc gyda’ch rhif aelodaeth cynfyfyriwr. Yna, cewch fynediad i’r cyfleusterau chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Talybont, Y Ganolfan Sboncen ym Mhlas y Parc, a’r Caeau Chwarae yn Llanrhymni.