Cynfyfyrwyr
Cadwch mewn cysylltiad â'r Brifysgol wrth fod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr.
Mae perthynas gyda Phrifysgol Caerdydd yn para am oes. Gallwch wirfoddoli a dysgu mwy am ein cynfyfyrwyr amlwg.
Yn y rhifyn Haf 2023 hwn o’ch cylchgrawn cynfyfyrwyr a ffrindiau, byddwch yn clywed sut mae ein hymchwilwyr presennol yn hyrwyddo ein dealltwriaeth o gyflyrau megis arthritis, seicosau fel sgitsoffrenia, a sut mae ein cyn-fyfyrwyr talentog yn gwneud gwahaniaeth i’r byd o’u cwmpas.
Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.
Mae Gwobrau (tua )30 oed yn dathlu'r cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi, ac yn torri tir newydd yn ogystal â thorri rheolau.
Gwahoddir holl gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rhai o UWIST, Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) a ddechreuodd neu a gwblhaodd eu hastudiaethau rhwng 1990-1999, i droi’r cloc yn ôl am un noson ym mis Awst.
Mae Canghennau a Grwpiau Cynfyfyrwyr yn gyfle i'n cynfyfyrwyr gysylltu, rhwydweithio, datblygu perthnasoedd cryf a rhannu cyfleoedd.
Ymunwch â ni ym mis Mawrth i ddathlu Mis Hanes Menywod yn ein digwyddiad ‘mentora chwim’: Menywod yn Mentora 2024
Cadw mewn cysylltiad
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael y newyddion diweddaraf i gynfyfyrwyr, a chadw mewn cysylltiad gyda Phrifysgol Caerdydd drwy gyflwyno eich gwybodaeth gyswllt gyfredol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed am daith eich bywyd ers eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhannwch eich hoff atgof, taith eich gyrfa neu’r cyngor y byddech yn ei roi o wybod yr hyn rydych yn ei wybod nawr!
Dewch i gael gwybod â phwy y dylech gysylltu os y gwnaethoch chi raddio cyn Gorffennaf 2017, a bydd angen copi o’ch trawsgrifiad neu dystysgrif arnoch, neu gadarnhad o’ch gradd.
Cefnogi myfyrwyr ac ymchwil
Rhowch un rhodd neu rodd reolaidd ar lein.
Mae yna nifer o ffyrdd hwylus i godi arian i gefnogi gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd.