Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor arbenigol

Yn aml, mae cyfrifiadura ymchwil blaengar yn ysgogi cyfleoedd am ymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol.

Mae’r technegau hyn yn cael eu defnyddio fwyfwy ar draws y sbectrwm cyfan o ddisgyblaethau ymchwil gan gynnwys y gwyddorau biofeddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau, yn ogystal â’r gwyddorau ffisegol a pheirianneg.

Rydym wedi agor drysau at dechnegau ymchwil newydd megis:

  • efelychiadau o darddiad ac esblygiad sêr a galaethau
  • dilyniannu genynnol
  • efelychiadau meddygol a deintyddol
  • darlunio delweddau mawr neu gymhleth wedi’u sganio.

Rydym yn hyrwyddo lledaenu gwybodaeth a chyd-weithio drwy:

  • gael mynediad o bell at gronfeydd data ymchwil mawr
  • fideo-gynadledda rhad dros y we
  • dadansoddi data ar y cyd yn fyd-eang.

Mae ein gwaith ar feysydd ymchwil rhyngddisgyblaethol yn cynnwys:

  • efelychiadau mantell daear a hylif
  • rhagolygu economaidd
  • modelu moleciwlau a phroteinau.

Gofynnwch i’n harbenigwyr

Os oes gennych syniad yr ydych yn credu y byddai’n elwa ar gyfrifiadura ymchwil blaenllaw, ond nid ydych yn siŵr sut i fynd amdani, cysylltwch â ni.

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil