Ewch i’r prif gynnwys

Lletya yn y ganolfan ddata

Mae canolfan ddata Redwood yn ystafell beiriannau flaenllaw a ddyluniwyd i ddefnyddio cyn lleied o ynni â phosibl.

Mae’r holl wres a gynhyrchir gan yr uwchgyfrifiadur yn cael ei amgáu gan giwb cynnwys eil-boeth, ac yn cael ei oeri gan system oeri â dŵr gan APC. Drwy dargedu’r aer poeth o’r clwstwr yn unig heb oeri’r ystafell beiriannau gyfan, mae modd arbed cyfran sylweddol o ynni o gymharu â gosodiad confensiynol mewn canolfan ddata.

Front of Datacentre cabinets
Cabinets in our Redwood data centre.

Mae systemau a letyir yn y ganolfan ddata’n elwa ar:

  • giwbiau cynnwys Eil-Boeth APC, gyda’r holl gabinetau ac unedau RC mewn-rhes yn eu lle. unedau APC Symmetra UPS (Cyflenwad Pŵer Heb Fodd Torri ar ei Draws) sy’n cyflenwi’r holl systemau ag ynni, ac mae’r holl gydrannau ar bŵer UPS
  • cabinetau ar lawr concrit solet gyda’r holl bibellau a phŵer yn mynd drwy ofod y nenfwd
  • System Atal Tân FM200
  • systemau monitro’r amgylchedd a phŵer
  • man diogel a theledu cylch cyfyng
  • tair uned ‘Turbomiser’ allanol sy’n cynnal y seilwaith oeri ar gyfer y raciau wedi’u hoeri â dŵr
  • generadur wrth gefn.

Gofynnwch i’n harbenigwyr

Dysgwch sut gallwn helpu i ddiwallu eich anghenion o ran lletya:

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil

Related projects

Scientist

CLIMB consortium service

Hosting equipment to support the Cloud Infrastructure for Microbial Bioinformatics.