Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith allanol

Rydym yn cyflwyno gweithgareddau deilliannau ac allgymorth o safon sy'n fuddiol i gymdeithasau ac economïau lleol a byd-eang.

Mae gennym gysylltiadau agos â sawl sefydliad tebyg yn y DU a thramor, ac rydym yn cynnig gwasanaethau cyfrifiadurol o'r radd flaenaf i sefydliadau academaidd a sefydliadau ymchwil eraill.

Mae ein harbenigwyr yn rhoi cyngor i brifysgolion penodol yn y DU ynglŷn â phrynu offer, ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cyfarpar cyfrifiadurol arbenigol gorau ar gyfer eu hanghenion.

  • Mae mwy na 400 o fyfyrwyr PhD wedi defnyddio ein cyfleuster.

Rydym yn ffynhonnell allweddol o arbenigedd i Grŵp Diddordeb Arbennig Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Addysg Uwch y DU, ac yn aelod ohono.

Rydym yn cyfrannu'n rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol ynglŷn â chyfrifiadura o'r radd flaenaf, ac yn helpu i gyflawni canlyniadau ymchwil.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni eich helpu chi:

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil

Email
arcca@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9681