Ewch i’r prif gynnwys

Cynaliadwyedd

Ein nod yw rhoi buddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd ac iechyd, nid yn unig i Gymru ond i’r byd ehangach.

Rydym yn cael ein harchwilio’n annibynnol a’i hardystio hyd at safon ryngwladol ISO 14001, yn seiliedig ar system rheoli amgylcheddol effeithiol, a nodweddir gan wella’n barhaus.

Yn 2019, fe wnaethom ddatgan bod argyfwng yn yr hinsawdd, gan gydnabod bod angen i ni chwarae ein rhan yn yr ymateb byd-eang. Rydym wedi ymrwymo i fod yn garbon sero-net ar gyfer sgôp 1 a 2 erbyn 2030, ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu ein targed ar gyfer sgôp 3.

Prifysgol fwy cynaliadwy

Adlewyrchir ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn ein cyfeiriad strategol, sy’n cynnwys ein cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol fel un o’n strategaethau galluogi.

Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol

‘Prifysgol Fwy Cynaliadwy’ – Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2018-2023 (Ail-lunio 2020)

Cynllun gweithredu cynaliadwyedd amgylcheddol 2023-24

Cynllun gweithredu 2023-24.

Crynodeb o papur Prifysgol Caerdydd ar argyfwng yr hinsawdd

Gweledigaeth Prifysgol Caerdydd yw creu dyfodol cynhwysol, cynaliadwy a chadarn ar gyfer ein cymuned a chyflwyno buddiannau amgylcheddol i Gaerdydd, Cymru yn ogystal â’r byd ehangach.

Archwiliad arylliadau carbon (Cwmpas 1 2 a 3) Adroddiad Cryno Chwefror 2022

Archwiliad Carbon Prifysgol Caerdydd 2021

Our team

Dr Julie Gwilliam

Dr Julie Gwilliam

Dean of Postgraduate Studies College of Physical Sciences & Engineering

Email
gwilliamja@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5977

Dr Katrina Henderson

Environmental Safety Adviser

Email
hendersonka@caerdydd.ac.uk

Cydweithio er budd cynaliadwyedd

Mae datblygu cynaliadwy'r Brifysgol yn un o gyfrifoldebau'r Dirprwy Is-ganghellor. Rydym yn gweithio'n agos â'n cynrychiolwyr gwyrdd undeb llafur sydd wedi'u henwebu a'n cynrychiolwyr myfyrwyr ar draws ein holl bwyllgorau prifysgol. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr ac undeb llafur yn ymwneud â datblygu ac ymgynghori ein holl bolisïau sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu'n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd yn y Brifysgol, cysylltwch:

Ymholiadau egni

Ymholiadau amgylcheddol

Ymrwymo i gynaliadwyedd

Rydym yn ceisio bod yn gynaliadwy ar draws ein holl waith, gan gynnwys ym meysydd addysgu, ymchwil, cynnal a chadw a pherfformiad y campws.

Ymchwil

Ymchwil

Mae ymchwil datblygu cynaliadwy yn gryfder allweddol ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc.

Astudio

Astudio

Rydym yn chwarae rôl bwysig i addysgu cenedlaethau’r dyfodol o bobl o fewn Cymru, y DU ac yn fyd-eang.

Campws

Campws

Rydym yn mynd ati i sicrhau datblygu cynaliadwy, yn allanol wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn fewnol.

Perfformiad

Perfformiad

Gweithiwn gan anelu at gynyddu ein heffeithlonrwydd wrth ddefnyddio dŵr ac ynni, ailgylchu, caffael gwyrdd, cynnal a chadw’r campws a bioamrywiaeth.

Nodau Datblygu Cynaliadwy

Rydym wedi ein rhestru yn un o'r sefydliadau gorau yn y byd am ein hymrwymiad i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.