Ewch i’r prif gynnwys

Ein heffaith economaidd a chymdeithasol

Ffoto sy'n dangos yr adeilad sbarc|spark
sbarc|spark yn mynd i'r afael â heriau mwyaf y ddynoliaeth. Mae'r ganolfan yn dod ag ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol, entrepreneuriaid, cwmnïau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deillio'r Brifysgol ynghyd i greu, profi a datblygu syniadau newydd sy'n ein helpu pob un ohonon ni i fyw bywydau hapusach ac iachach.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu'n sylweddol at economi'r DU.

Rydyn ni’n denu buddsoddiad o safon o'r sector cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, ac mae hyn yn ein helpu i droi ein hymchwil sydd o'r radd flaenaf yn gynnyrch, gwasanaethau a phrosesau'r dyfodol.

Mae ein rhagoriaeth ym maes dysgu ac addysgu'n creu graddedigion hynod fedrus sy'n cael eu talu'n dda ac yn cyfrannu'n sylweddol at y coffrau cyhoeddus ar ôl iddyn nhw ddechrau ym myd gwaith.

Rydyn ni wedi buddsoddi mewn pobl, partneriaethau a lleoedd. Ein datblygiad adeiladu mwyaf ar y Campws ers cenhedlaeth yw adeilad pwrpasol Canolfan Bywyd y Myfyrwyr a’r buddsoddi mewn dwy ganolfan newydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd, yn ogystal ag Abacws – cartref newydd yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg.

Mae dadansoddiad o effaith economaidd Prifysgol Caerdydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn dangos:

  • Rydym yn cyfrannu £3.7 biliwn at economi'r DU
  • Mae bron i 1 ym mhob 135 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu arnon ni
  • Rydyn ni'n creu £6.40 am bob £1 a wariwn

Rydyn ni’n brifysgol sy’n wirioneddol fyd-eang. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu'n sylweddol at economi'r DU yn ystod eu cyfnod yn y ddinas. Ni yw un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ac mae’r staff a’r myfyrwyr gyda’i gilydd yn fwy na 35,000 o bobl. Mae'r Brifysgol yn cefnogi 14,000 o swyddi ar draws y DU.

Mae gan Brifysgol Caerdydd wreiddiau dwfn yn y gymuned leol, ac mae'n ymgysylltu'n rhagweithiol â'r cyhoedd er mwyn helpu i wella iechyd, cyfoeth a lles yng Nghymru, ar draws y DU ac o amgylch y byd.

Addysgu a dysgu

Rydyn ni’n darparu addysg o safon sy'n cyfoethogi bywydau myfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer byd gwaith. Boed yn fyfyrwyr newyddiaduraeth sy’n mireinio eu crefft mewn canolfan o’r radd flaenaf drws nesaf i BBC Cymru, neu’n ôl-raddedigion sy’n gweithio gyda byd diwydiant ar seiberddiogelwch yn labordai uwch-dechnoleg Abacws, rydyn ni’n darparu profiad dysgu arloesol i’n myfyrwyr.

Ychwanegir £1.2 biliwn at economi'r DU o ganlyniad i weithgareddau dysgu ac addysgu Prifysgol Caerdydd

Mae mwy na 33,500 o fyfyrwyr o 148 o wledydd wedi ymrestru ym Mhrifysgol Caerdydd – mae bron i hanner (48%) myfyrwyr y DU yn dod o Gymru. Mae 96% o’r graddedigion yn mynd i gyflogaeth, yn gwneud rhagor o astudiaethau neu’r ddau yn fuan ar ôl graddio (Cyrchfan Ymadawyr Addysg Uwch 2016/17).

Ymchwil a chyfnewid gwybodaeth

Ymdrechwn i greu ymchwil bwysig sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled y byd, gan fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu’r gymdeithas, yr economi a'n hamgylchedd. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 roedd 90% o'n hymchwil yn arwain y byd, a hynny’n swyddogol, neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Boed wrth lywio’r ddadl yng ngwleidyddiaeth Cymru, brwydro'n erbyn seiberdroseddu neu wella gofal clinigol yng Nghymru, mae ein hymchwil yn creu pontydd ac yn ysgogi twf economaidd a chymdeithasol.

Ychwanegir £831 biliwn at economi’r DU o ganlyniad i ymchwil Prifysgol Caerdydd

Am bob £1m a fuddsoddir yn ymchwil Prifysgol Caerdydd (ac eithrio gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth), cynhyrchir £4.89 miliwn i gwmnïau yn y DU. Mae Prifysgol Caerdydd yn dal 426 o batentau a chynhyrchir £59 miliwn drwy 164 o gwmnïau deillio gweithredol a busnesau newydd gan staff a myfyrwyr, ac mae’r rhain yn cefnogi 1,285 o swyddi amser llawn (665 ohonynt yng Nghymru).

Prifysgol sy’n rhyngwladol

Prifysgol wirioneddol fyd-eang yw Prifysgol Caerdydd sydd â chymuned ryngwladol a ffyniannus o fyfyrwyr a phartneriaethau gweithredol â mwy na 200 o sefydliadau ledled y byd. Mae partneriaethau â phrifysgolion rhyngwladol o bwys yn cynyddu nifer ein prosiectau ymchwil ar y cyd, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr wneud PhD ar y cyd, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer symudedd y myfyrwyr a’r staff.

Yn ystod 2020/21, cafodd Prifysgol Caerdydd y cyfrifoldeb o gynnal a chyd-ddatblygu Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (ILEP) Llywodraeth Cymru. Cafodd y rhaglen fuddsoddiad o £65m a bydd ar waith rhwng 2022 a 2026.

Bydd rhaglen ILEP yn sicrhau bod myfyrwyr yn elwa ar brosiectau cyfnewid rhyngwladol sy’n debyg i’r cyfleoedd a ddeilliodd o Erasmus+, nid yn unig yn Ewrop ond ymhellach i ffwrdd.

Yn ystod y cyfnod hwn, y gobaith yw y bydd tua 15,000 o bobl o Gymru’n cymryd rhan mewn prosiectau cyfnewid symudedd tramor, a bydd 10,000 o bobl sy’n cymryd rhan yn dod i astudio neu weithio yng Nghymru.

  • 7,530 o fyfyrwyr rhyngwladol o 122 o wledydd gwahanol
  • Ychwanegir £655m at yr economi o ganlyniad i’n myfyrwyr rhyngwladol
  • 180,000 o gyn-fyfyrwyr o fwy na 180 o wledydd

Gwella bywydau

Cymru yw curiad ein calon. Ymfalchïwn yn y gwaith o gynnal cymuned sy’n gymdeithasol ac yn ddiwylliannol amrywiol ledled Cymru ac rydyn ni’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb amdani.

Yn 2020/21, cawsom ein hysgwyd yn sgîl COVID-19 a bu’n dristwch mawr inni golli ffrindiau a chydweithwyr annwyl iawn. Er bod y pandemig wedi taflu cysgod hir dros y flwyddyn, roedd yr ymateb gan gydweithwyr academaidd yn rhyfeddol.

Aeth ein hymchwilwyr ati i geisio darganfod brechlynnau posibl ar gyfer COVID-19, gan olrhain y feirws wrth iddo ymledu a chan ymchwilio i effaith y pandemig ar iechyd meddwl. Lansiodd cydweithwyr Wasanaeth Sgrinio Prifysgol Caerdydd - llwyddiant ysgubol a oedd yn caniatáu i staff a myfyrwyr sefyll profion wrth iddyn nhw gyrraedd y campws.

Parhaodd prosiectau Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol i lunio ein cymdogaethau. Yn 2020/21, gwnaethon ni drawsnewid hen bafiliwn bowls Grangetown yn ganolfan gymunedol lewyrchus gwerth £2m, sef penllanw partneriaeth chwe blynedd rhwng prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a’r grwpiau o breswylwyr Prosiect Pafiliwn y Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown. Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn cefnogi prosiectau o bwys sy'n cefnogi presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn Abercynon yn ogystal â datblygu Prifysgol y Plant yng Nghaerdydd.

Yn ystod y pandemig, gwnaethon ni ymuno â’r elusen lwyddiannus Teen Tech i drefnu mis o ddigwyddiadau gwyddoniaeth a thechnoleg digidol byw ar-lein i blant mewn ysgolion a chartrefi ledled Cymru.

  • Mae Caerdydd yn cyflogi 7,000 o staff ac yn creu 7,000 o swyddi pellach
  • Mae 10,000 o’r swyddi yng Nghymru
  • Ni oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i gael ei henwi'n 'Hyrwyddwr y Cyflog Byw'

Effaith economaidd a chymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn 2020-21 (Hydref 2022)

Gweld yr adroddiad a gynhyrchwyd gan London Economics ar ein heffaith gymdeithasol ac economaidd.