Ein lleoliad
Ein lleoliad yw Caerdydd, prif ddinas Cymru. Mae'n ddinas gyfeillgar, gryno a diogel gyda chymeriad gwych a threftadaeth nodedig.
Ymweld â ni
Mae nifer o ffyrdd i chi allu ymweld â ni:
Ein campysau
Campws Parc Cathays
Campws Parc Cathays yw lleoliad y mwyafrif o'r Ysgolion Academaidd. Mae wedi'i osod yn ardal canolfan ddinesig brydferth Caerdydd, sy'n cynnwys adeiladau hardd o garreg Portland, parciau a rhodfeydd coediog.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud yn ein hystad, gan gynnwys datblygu cyfleusterau ymchwil datblygedig yn adeilad Hadyn Ellis sydd werth £30M a datblygiad gwerth £44m i adeiladau CUBRIC.
Campws Parc Mynydd Bychan
Mae'r Ysgolion Academaidd yn y lleoliad hwn yn rhannu safle 53 erw gydag Ysbyty Prifysgol Cymru, ysbyty â 900 o welyau sy'n un o'r mwyaf yn y DU.
Mae addysg gofal iechyd flaengar a gofal am gleifion ynghyd â chyfleusterau ymchwil o safon byd-eang yn golygu bod hon yn ganolfan addysgu ac ymchwil bwysig.