Ewch i’r prif gynnwys

Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (bellach wedi uno gyda Phrifysgol Caerdydd)

Mae'r defnydd byd-eang o brofion gwrthgyrff wedi'u labelu sydd wedi eu seilio ar gemoleuedd yn dystiolaeth o arwyddocâd gwaith y Coleg.

Fe wnaeth gwyddonwyr yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru (bellach wedi uno gyda Phrifysgol Caerdydd), ddatblygu dyfais sydd wedi arwain at welliannau dramatig mewn diagnosis clinigol a rheoli cleifion. 

Y cam allweddol oedd sylweddoli y gellid defnyddio'r cemegau sy'n allyrru golau pan maent yn ocsidiedi fel dewisiadau amgen i radioisotopau i labelu gwrthgyrff mewn profion diagnostig. Mae'r gwyddonwyr wedi dangos y gall 'immunoassays' yn seiliedig ar gemoleuedd fod hyd at hanner cant o weithiau yn fwy sensitif na'r rhai sy'n defnyddio ymbelydredd tra'n osgoi'r problemau sy'n gysylltiedig gyda'r defnydd o sylweddau ymbelydrol. 

Mae partneriaid masnachol wedi buddsoddi'n sylweddol yn y dechnoleg newydd hon. Mae ymchwil cydweithiol parhaus o fewn y Coleg a bellach yr Ysgol Meddygaeth, wedi cynhyrchu systemau awtomataidd dadansoddol a all gyflawni canlyniadau o fewn munud yn hytrach nag oriau. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth fwy cywir i feddygon ar sut i gynllunio gofal cleifion. 

Mae cymwysiadau pellach yn ei gwneud hi'n bosibl i adnabod dilyniannau DNA unigryw trwy ddefnyddio mewnchwilwyr genynnau cemoleuedd. Mae hyn wedi arwain at brofion cyflym a sensitif ar gyfer adnabod bacteria, firysau, celloedd cancr a mwtaniadau genynnau. Mae ymchwil yn parhau i ddarparu gwelliannau yn y dechnoleg graidd a'i chymwysiadau.