Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig

Enillodd Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2015 ar gyfer cyflawni dealltwriaeth drawsnewidiol ragorol o achosion, diagnosis a thriniaeth salwch meddwl.

Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, yr Athro Syr Michael Owen, mae’r Ganolfan yn dod a chymuned fyd-eang o ymchwilwyr blaenllaw at ei gilydd i ymchwilio i achosion nifer o anhwylderau seiciatrig a niwroddirywiol.

Mae eu gwaith yn ceisio gwella dealltwriaeth o’r modd y mae’r clefydau hyn yn codi; datblygu dulliau diagnostig newydd a dynodi targedau newydd ar gyfer triniaeth.

Ers iddi gael ei lansio yn 2009, mae ei hymchwil wedi gwneud camau breision gan ddarganfod y sylfaen enetig ar gyfer amrywiaeth o glefydau, o glefyd Alzheimer a sgitsoffrenia i anhwylder deubegwn ac ADHD.

Rwyf i’n hynod o falch o’r holl staff yn y Ganolfan am ennill y wobr hon. Mae’n adlewyrchiad o’r llwyddiannau rhyfeddol sydd yn bosibl oherwydd y tîm rhagorol o staff gwyddonol, technegol a gweinyddol sy’n arwain maes ymchwil iechyd meddwl. Mae eu hymdrechion wedi llwyddo i oleuo rhai o gorneli tywyllaf salwch meddwl ac yn ein gosod mewn sefyllfa gref i wneud datblygiadau pellach fydd yn arwain at fuddion sylweddol i gleifion.

Yr Athro Syr Michael Owen Cyfarwyddwr, Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig

Mae’r canlynol ymhlith prif ddarganfyddiadau’r Ganolfan:

  • dynodi cyswllt genetig rhwng anabledd deallusol, awtistiaeth, ADHD a sgitsoffrenia
  • darganfod y ffactorau risg genetig penodol cyntaf ar gyfer sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac ADHD
  • darganfod genynnau risg newydd am y tro cyntaf ers dros 17 o flynyddoedd i glefyd Alzheimer.

Mae’r gwaith hwn wedi cysylltu nifer o systemau clefyd newydd ac mae gwyddonwyr y Ganolfan bellach yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau arloesol i drosi’r canfyddiadau diweddaraf hyn yn ddulliau newydd o drin ac atal.

Yn ogystal â’u darganfyddiadau genetig sylfaenol, mae gwaith ymchwilwyr y Ganolfan wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer.

Er enghraifft mae eu hymchwil wedi:

Creu swyddi a datblygu addysg

Mae’r Ganolfan yn cynnig amgylchedd ymchwil unigryw yng Nghymru i gynyddu cyfranogiad mewn ymchwil iechyd meddwl ac mae’n trosi darganfyddiadau’n fuddion uniongyrchol i’r claf. Yn y chwe blynedd ers iddi fod yn weithredol, mae wedi creu 182 o swyddi ac wedi denu dros £90M o fuddsoddiad, gan lwyddo i sefydlu’r Brifysgol a Chymru fel arweinwyr byd-eang mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Y tu hwnt i ymchwil, mae’r Ganolfan yn cyflwyno rhaglenni arloesol mewn addysg israddedig ac ôl-raddedig ac yn ymrwymo i chwalu’r stigma ynghylch anhwylderau iechyd meddwl drwy agenda ymgysylltu eang â’r cyhoedd.