Ewch i’r prif gynnwys

Y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu

Enillodd y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu Wobr Pen-blwydd y Frenhines 2000 am ei chyfraniad i'r economi.

Yn benodol, cafodd y Wobr ei dyfarnu am ddulliau arloesol y Ganolfan i greu rhaglen nodedig o gymorth i gwmnïau trwy ddefnyddio'i harbenigedd ymchwil, cyfleusterau modern a throsglwyddo technoleg ymarferol.

Roedd y Ganolfan yn cael ei gweld fel enghraifft dda o sut gall prifysgol ddiwallu anghenion amryfal fentrau bach a chanolig eu maint yn ogystal â chwmnïau diwydiannol mawr. Fe wnaeth y Ganolfan gynyddu cystadleugarwch diwydiannol, creu neu ddiogelu cannoedd o swyddi diwydiannol lleol a chyfrannu'n gryf at adfywio rhanbarthol.

Ymhlith yr hyn a gyflawnwyd ganddi:

  • Creu gweithdrefn neu algorithm mathemategol, ar ôl sylwi ar wenyn yn "dawnsio" wrth gasglu neithdar. Mae'n galluogi cwmnïau i gael y canlyniadau gorau posibl wrth newid elfennau sylfaenol o'r prosesau.

  • Datblygu lensys arbenigol iawn ar gyfer synwyryddion SPIRE sy'n cael eu cynhyrchu â thechneg o'r enw "boglynwaith poeth".  Mae hyn yn gwneud yn siŵr fod y defnydd yn cadw'i nodweddion gwreiddiol, hyd yn oed ar dymheredd o -273 gradd C.  Mae SPIRE yn un o dri offeryn ar fwrdd Arsyllfa Ofod Herschel yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

  • Datblygu peiriannau a all greu tyllau mor fach â 22 micron (0.022 mm) mewn dur di-staen a deunyddiau eraill, sy'n ddatblygiad pwysig o ran peirianneg fecanyddol ac sy'n golygu manteision i ddylunwyr yn y gwyddorau meddygol a labordy, yn ogystal ag i beirianwyr dylunio electronig.

Ers ennill y Wobr, aeth y Ganolfan ymlaen i sefydlu MicroBridge, cyfleuster gwerth £7.5 miliwn, fel bod modd i beirianwyr gynhyrchu cydrannau microsgopig i ddiwydiant a galluogi peirianwyr trachywir mewn gweithgynhyrchu i weithio i'r un ficro-raddau â'r rheini mewn electroneg.

Sefydlwyd y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu, sydd yn rhan o'r Ysgol Peirianneg, ym 1996.

Nodwch nad yw’r Ganolfan yn weithredol ym Mhrifysgol Caerdydd mwyach.