Ewch i’r prif gynnwys

Syr Martin Evans, Gwobr Nobel mewn Meddygaeth

Syr Martin Evans yn y Prif Adeilad
Syr Martin Evans

Yn 2007 dyfarnwyd y Wobr Nobel mewn Meddygaeth i’r Athro Syr Martin Evans o Ysgol y Biowyddorau am gyfres o ddarganfyddiadau arloesol am fôn-gelloedd embryonig ac ailgyfuno DNA mewn mamaliaid.

Penodwyd yr Athro Syr Martin Evans yn llywydd y Brifysgol yn 2009 a daeth yn Ganghellor arni yn 2012. Bu yn y rôl am wyth mlynedd cyn rhoi'r gorau i'w rôl ym mis Mawrth 2017.

Y dyfarniad

Cyhoeddodd y Cynulliad Nobel bod yr Athro Syr Martin Evans o Ysgol y Biowyddorau yn un o dri enillydd am "gyfres o ddarganfyddiadau arloesol am fôn-gelloedd embryonig ac ailgyfuno DNA mewn mamaliaid."

Syr Martin oedd y gwyddonydd cyntaf i ganfod bôn-gelloedd embryonig, a gellir eu haddasu at amrywiaeth o ddibenion meddygol. Mae ei ddarganfyddiadau nawr yn cael eu defnyddio yn y mwyafrif llethol o feysydd biofeddygol - o ymchwil sylfaenol i ddatblygu therapïau newydd.

Rydw i'n falch iawn o weld gwyddoniaeth Prydain yn cael ei hanrhydeddu fel hyn. Rydw i wedi breuddwydio am hyn ers ro'n i'n fachgen.

Syr Martin Evans

Mae'n rhannu'r wobr o £755,000 gyda dau arloeswr arall ym maes bôn-gelloedd. Yr Athro Mario Capecchi o Brifysgol Utah yw un ohonynt, a'r Athro Oliver Smithies o Brifysgol Gogledd Carolina yw'r llall. Mae eu hymchwil wedi creu technoleg o'r enw targedu genynnau, ac mae'n cael ei defnyddio bron ym mhob maes biofeddygol erbyn hyn – o ymchwil sylfaenol i ddatblygu therapïau newydd.

Mae techneg targedu genynnau'n cael ei defnyddio'n aml i analluogi genynnau unigol. O ganlyniad i hynny, gall arbrofion daflu goleuni ar rôl genynnau mewn datblygiad, heneiddio a chlefydau. Mae'r dechneg eisoes wedi cynhyrchu dros 500 o wahanol fodelau o anhwylderau dynol, gan gynnwys clefydau cardiofasgwlaidd, diabetes a chanser.

Wrth gyhoeddi'r wobr, dyma ddywedodd y Cynulliad Nobel am ymchwil y tri enillydd: "Bydd ei heffaith ar y ddealltwriaeth o swyddogaeth genynnau a'i manteision i ddynol ryw, yn cynyddu am flynyddoedd maith i ddod."

Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd ar y pryd, Dr David Grant, oedd un o'r rhai cyntaf i longyfarch Syr Martin.  "Mae'r wobr yn deyrnged nid yn unig i athrylith academaidd darganfyddiadau Syr Martin, ond hefyd i fanteision eang ei ymchwil".  Mae'r Prif Weinidog a Phrif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru ymhlith y llu o bobl sydd wedi talu teyrnged i'w gyflawniad.

Mae Syr Martin wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu Prifysgol Caerdydd fel canolfan sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil biofeddygol.

Mae hyn yn gydnabyddiaeth deilwng o ymchwil arloesol Syr Martin ynghylch bôn-gelloedd embryonig. Mae'n awdurdod ar lefel ryngwladol ym maes geneteg famalaidd ac nid oes unrhyw amheuaeth fod ei ymchwil wedi cynyddu ein dealltwriaeth o afiechydon dynol.

Yr Athro Syr Martin Rees Seryddwr Brenhinol a chyn-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol

Y wyddoniaeth - targedu genynnau

Mae'r technegau genetig a ddatblygwyd gan yr Athro Syr Martin Evans a dau enillydd arall y Wobr Nobel, wedi cynnig manteision enfawr. Mae labordai ledled y byd wedi'u mabwysiadu er mwyn cynnal ymchwil hanfodol i gannoedd o afiechydon a anhwylderau.

Ac eto, 20 mlynedd yn unig cyn eu darganfyddiadau, roedd y rhan fwyaf o wyddonwyr yn meddwl bod technegau o'r fath yn "amhosibl."

Mae Syr Martin yn rhannu ei Wobr Nobel gyda'r Athro Mario Capecchi o Brifysgol Utah, a'r Athro Oliver Smithies o Brifysgol Gogledd Carolina. Cafodd yr Athro Smithies ei eni yn y DU.

Roedd gan yr Athrawon Capecchi a Smithies y weledigaeth i weld bod modd addasu geneteg celloedd mamalaidd trwy broses o'r enw ailgyfuno cyfatebol. Fe awgrymodd eu harbrofion bod modd addasu'r holl genynnau fel hyn.

Fodd bynnag, nid oedd modd defnyddio'r celloedd y gwnaethant eu hastudio i greu llinellau o anifeiliaid lle'r oedd genyn penodol wedi'i addasu. Roedd angen math newydd o gell a allai arwain at gelloedd germau a chaniatáu i addasiadau DNA gael eu hetifeddu.

Dod o hyd i'r celloedd hyn oedd cyfraniad Syr Martin. Methodd yr ymdrechion cychwynnol gyda chelloedd carsinoma o lygod. Fodd bynnag, trodd ei sylw wedi hynny at fôn-gelloedd embryonig. Fe addasodd y celloedd hyn yn enetig a dangos y byddant yn creu llygod a fyddai'n gallu trosglwyddo'r genynnau newydd i'r genhedlaeth nesaf.

Mae'n anodd dychmygu ymchwil feddygol gyfoes nad ydyw'n defnyddio modelau sy'n targedu genynnau.

Goran Hansson Aelod o'r Pwyllgor Nobel

Mae dod â thechneg ailgyfuno cyfatebol yr Athrawon Capecchi a Smithies a darganfyddiadau bôn-gelloedd Syr Matrin ynghyd, wedi creu'r dechnoleg newydd ac aml-bwrpas hon o dargedu genynnau.

Erbyn hyn, mae'n bosibl cyflwyno math o lygod ('knockout mice') lle gellir addasu eu geneteg mewn ffyrdd ac ar adegau penodol, neu mewn celloedd neu organau penodol. Mae'n bosibl astudio bron pob agwedd ar ffisioleg famalaidd fel hyn. Mae'r dechneg wedi'i defnyddio ar gyfer ymchwil mewn meysydd amrywiol fel canser, imiwnoleg, niwrofioleg, anhwylderau genetig dynol ac endocrinoleg.

Mae Syr Martin ei hun wedi defnyddio'r dechneg wrth astudio ffibrosis systig a chanser y fron. Mae'r Athro Capechi wedi taflu goleuni ar yr hyn sy'n achosi sawl math o annormaleddau geni dynol, ac mae'r Athro Smithies wedi bod yn gweithio ar glefyd gwaed thalassemia a phwysedd gwaed uchel.

Fodd bynnag, megis dechrau yn unig y mae gwyddonwyr o ran manteisio'n llawn ar dechnoleg targedu genynnau. Fel y dywedodd y Cynulliad Nobel wrth ddyfarnu'r wobr i'r tri athro: "Bydd ei manteision i ddynol ryw yn cynyddu am flynyddoedd i ddod."

Bywgraffiad

Yr Athro Syr Martin Evans oedd y gwyddonydd cyntaf i ganfod bôn-gelloedd embryonig, y gellir eu haddasu at amrywiaeth o ddibenion meddygol. Mae ei ddarganfyddiadau nawr yn cael eu defnyddio yn y mwyafrif llethol o feysydd biofeddygol - o ymchwil sylfaenol i ddatblygu therapïau newydd.

Yn 2007 dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth iddo, yr anrhydedd uchaf yn y bydd gwyddonol, ar gyfer "darganfyddiadau arloesol am fôn-gelloedd embryonig ac ail-gyfuno DNA mewn mamaliaid."

Cafodd Syr Martin ei BA mewn Biocemeg o Goleg Crist Prifysgol Caergrawnt ym 1963. Derbyniodd MA ym 1966 a DSc ym 1966. Ym 1969 dyfarnwyd iddo PhD o Goleg y Brifysgol, Llundain. Ymunodd ag Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ym 1999.

Mae Syr Martin wedi cyhoeddi dros 120 o bapurau gwyddonol. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1993 ac mae'n Gymrawd Sefydlu'r Academi Gwyddorau Meddygol. Enillodd Gymrodoriaeth Walter Cottman a Gwobr William Bate Hardy yn 2003 ac yn 2001 dyfarnwyd iddo Fedal Albert Lasker ar gyfer Ymchwil Meddygol Sylfaenol yn UDA. Yn 2002 dyfarnwyd Doethur Er Anrhydedd iddo gan Ysgol Meddygaeth Mount Sinai yn Efrog Newydd, a ystyrir yn un o brif ganolfannau hyfforddiant meddygol a gwyddonol y byd. Mae hefyd wedi derbyn doethuriaethau er anrhydedd gan Brifysgol Caerfaddon,Prifysgol Buckinghamshire, Coleg y Brifysgol Llundain, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Athen.

Fe'i dyrchafwyd yn farchog yn 2004 am ei wasanaethau i wyddoniaeth feddygol ac yn 2009 dyfarnwyd Medal Aur y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol iddo i gydnabod ei gyfraniad gwerthfawr i feddygaeth. Yn 2009 hefyd derbyniodd Fedal Baly gan Goleg Brenhinol y Meddygon, a Medal Copley, dyfarniad hynaf y Gymdeithas Frenhinol, gan ymuno â rhestr glodfawr o enillwyr blaenorol gan gynnwys Albert Einstein.

Ysgol Academaidd

Biosciences building detail

Ysgol y Biowyddorau

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig amgylchedd deinamig ac ysgogol ar gyfer dysgu ac ymchwil. Mae gennym gyfleusterau modern o safon yn ogystal â staff o'r radd flaenaf.