Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr er Anrhydedd

Yn 2013 anrhydeddwyd dau enillydd Gwobr Nobel, gwleidydd Prydeinig, awdur a chyflwynydd teledu yn ein seremonïau graddio.

Cymrodyr er Anrhydedd 2013

Madeleine Bunting

Madeleine Bunting
Madeleine Bunting

Madeleine Bunting yw Golygydd Cyswllt The Guardian ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddatblygu strategaeth yn wyneb y chwyldro technoleg ddigidol yn y diwydiant cyfryngau.

Mae'n awdur tri llyfr, yn fwyaf diweddar yn edrych ar hunaniaeth a pherthyn, The Plot, A biography of an English Acre, a enillodd Gwobr Portico ac a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Llenyddiaeth Ondaatje y Gymdeithas Frenhinol. 

Mae wedi ennill sawl gwobr am newyddiaduraeth ac wedi ysgrifennu ar amrywiaeth eang o bynciau, gan ddod ag ymdeimlad moesegol i feysydd gwleidyddiaeth, newid cymdeithasol, economeg fyd-eang a chwestiynau hunaniaeth.

Dr Peter Florence MBE

Dr Peter Florence MBE
Dr Peter Florence MBE

Cyfarwyddwr Gwyliau yw Dr Peter Florence sy'n fwyaf adnabyddus am sefydlu Gŵyl y Gelli gyda'i dad Norman Florence.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ipswich, Coleg yr Iesu, Caergrawnt a Phrifysgol Paris ac mae ganddo MA mewn Llenyddiaeth Fodern a Chanoloesol.

Yn ogystal â Gŵyl y Gelli, sefydlodd Florence wyliau tebyg ym Mantua, Segovia, Palas Alhambra, Cartagena, Nairobi, Zacatecas, Thiruvananthapuram, Dhaka, Xalapa, Belfast a Paraty.

Mae'n gyd-olygydd detholiadau Oxtales ac Oxtravels gyda Mark Ellingham o Profile Books, mewn partneriaeth gydag Oxfam.

Y Farwnes Kinnock o Gaergybi

Baroness Kinnock of Holyhead
Baroness Kinnock of Holyhead

Mae'r Farwnes Kinnock o Gaergybi yn wleidydd Prydeinig ac ar hyn o bryd yn Llefarydd yr Wrthblaid yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Roedd Glenys, sy'n gyn-fyfyriwr Coleg Prifysgol Caerdydd, yn athrawes am 28 o flynyddoedd cyn cael ei hethol yn Aelod o Senedd Ewrop dros Dde Ddwyrain Cymru ym 1994. Yn y Senedd honno ymhlith pethau eraill fe'i hetholwyd yn Gyd-Lywydd Cydgynulliad Seneddol yr UE-Affrica, y Caribî, y Môr Tawel, sy'n cynnwys 105 o Aelod-wladwriaethau.

Pan ymddeolodd yn 2009 fe'i penodwyd yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a'i phenodi'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes Kinnock o Gaergybi.

Dr Paul Langmaid CBE

Dr Paul Langmaid CBE
Dr Paul Langmaid CBE

Dr Paul Langmaid CBE yw cyn Brif Swyddog Deintyddol Cymru a graddiodd o Ysgol Ddeintyddol Caerdydd ym 1975. 

Yn dilyn deng mlynedd mewn Practis Deintyddol Cyffredinol yng Nghernyw, fe'i penodwyd yn Brif Swyddog Deintyddol ar ynys Anguillla yn India'r Gorllewin. 

Ymunodd ag Adran Ddeintyddol y Swyddfa Gymreig fel yr oedd ar y pryd ym 1993 a chafodd ei benodi'n Brif Swyddog Deintyddol hyd at ei ymddeoliad ym mis Rhagfyr 2010. Mae'n parhau i fod ar y gofrestr ddeintyddol ac ar y Rhestr Arbenigol ar gyfer Iechyd Deintyddol Cyhoeddus ac yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Cymorth Iechyd y Deintyddion.

Yr Athro Laura McAllister

Professor Laura McAllister
Professor Laura McAllister

Yr Athro Laura McAllister yw Cadeirydd Chwaraeon Cymru ac Athro Llywodraethiant Ysgol Rheolaeth Prifysgol Lerpwl. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd UK Sport, Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru, Stonewall UK, British Council Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig. Mae'n aelod o Grŵp Ymgynghorol Allanol Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'n gyn chwaraewr a chapten tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru.

Addysgwyd Laura yn Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont, a graddiodd o'r London School of Economics a Phrifysgol Caerdydd gyda PhD mewn gwleidyddiaeth.

Kevin McCloud

Kevin McCloud
Kevin McCloud

Mae Kevin McCloud yn ddylunydd, awdur a chyflwynydd teledu.

Mae'n adnabyddus am Grand Designs ar Channel 4 ac am gyflwyno Gwobr Stirling bob blwyddyn.

Ysgrifennodd a chyflwynodd bedair awr o Grand Tour of Europe a threuliodd bythefnos a hanner yn slymiau Mumbai ar gyfer tymor India Channel 4 yn 2010.

Mae wedi dylunio goleuo ar gyfer rhai o adeiladau gorau Ewrop, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Ely a Chastell Caeredin.

Richard Parks

Richard Parks
Richard Parks

Mae Richard Parks yn gyn flaenasgellwr i Gymru a'r Barbariaid.

Yn 2011 cyflawnodd Richard gamp hanesyddol drwy fod y person cyntaf erioed i ddringo mynydd uchaf pob un o saith cyfandir y byd, a sefyll ar y 3 phegwn (Pegwn y Gogledd, Pegwn y De a chopa Everest) o fewn 7 mis. 

Hefyd cododd ei Her 737 gannoedd o filoedd o bunnoedd i elusen Gofal Canser Marie Curie a chreu cyhoeddusrwydd werth £2.1 miliwn i'r elusen. 

Ar hyn o bryd mae Richard yn paratoi at ei daith byd nesaf yn 2014. (Ffotograff: Ben Winston)

Yr Athro Simon Smail CBE

Professor Simon Smail CBE
Professor Simon Smail CBE

Dechreuodd Simon Smail ei yrfa nodedig yn adran Ymarfer Meddygol flaenorol Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru a pharhaodd yn aelod o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd tan 2006.

Drwy gydol y 1980au bu'n arloesi gyda mesurau hybu iechyd a chwaraeodd ran yn y gwaith o sefydlu rhaglen Curiad Calon Cymru ac fel Cadeirydd cyntaf Awdurdod Hybu Iechyd Cymru. Mae hefyd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o reoli a datblygu addysg feddygol.

Yn 2007 bu'n cadeirio adolygiad pwysig o wasanaethau Llyfrgell Gofal Iechyd Cymru ar ran Prifysgol Caerdydd ac mae'n parhau i fod yn aelod gweithredol o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

John Reardon Smith

John Reardon Smith
John Reardon Smith

John Reardon Smith yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Forol Reardon Smith ac mae'n gyn Gyfarwyddwr dau gwmni perchen llongau, sef Reardon Smith a'r Leeds Shipping Company. 

Gwasanaethodd ar Fwrdd dau Gwmni Yswiriant Cydfuddiannol Morol, sef y West of England Association a The United Kingdom Protection and Indemnity Association. 

Gwasanaethodd hefyd ar lawer o Bwyllgorau'r Diwydiant Morgludo gan gynnwys Cofrestrfa Lloyds, y Cyngor Cyffredinol a'r Ffederasiwn Morgludo.

Graddau Er Anrhydedd

Yr Athro Mario Capecchi

Professor Mario Capecchi
Professor Mario Capecchi

Mae'r Athro Mario Capecchi yn enetegydd moleciwlaidd byd-enwog ac yn gyd-enillydd Gwobr Nobel mewn Ffisioleg yn 2007 gyda Syr Martin Evans ac Oliver Smithies. 

Mae ei waith arloesol ar dargedu genynnau bôn-gelloedd embryonau llygod wedi helpu i osod safon newydd ar gyfer ymchwil yn fyd-eang.

Cwblhaodd yr Athro Capecchi ei radd PhD mewn bioffiseg o Brifysgol Harvard dan arweiniad Dr James Watson – cyd-ddarganfyddwr strwythur DNA gyda Syr Francis Crick.

Yr Athro Oliver Smithies

Professor Oliver Smithies
Professor Oliver Smithies

Mae'r Athro Oliver Smithies yn enetegydd blaenllaw drwy'r byd sy'n arbenigo mewn targedu genynnau.

Fe'i ganwyd a'i addysgu yn y DU, a dyfeisiodd electroffpresis gel hidlo molecwlaidd – a ddefnyddir gan wyddonwyr yn fyd-eang.Yn 2007, rhannodd Wobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth gyda Mario Capecchi a Syr Martin Evans, am ddarganfod egwyddorion cyflwyno addasiadau genynnol penodol mewn llygod drwy ddefnyddio bôn-gelloedd embryonaidd.