Ewch i’r prif gynnwys

2015 Cymrodyr er Anrhydedd

Mae un o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, darlledwraig enwog, nofelydd Prydeinig sydd wedi ennill sawl gwobr ac un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus manwerthu yn y DU ymysg y rhai a gafodd eu hanrhydeddu yn ein seremonïau graddio blynyddol yn 2015.

Cymrodyr er Anrhydedd

Laura Tenison

Laura Tenison in graduation robes
Laura Tenison

Laura Tenison yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr JoJo Maman Bébé, brand 'boutique' mam a baban sy'n arwain yn y DU. Mae ei chwmni wedi tyfu'n organig o gychwyn busnes yn 1993 i drosiant cyfredol o £50M a 700 o weithwyr.

Mae'r busnes yn cael ei redeg gyda chod ymddygiad moesol llym; gan roi pobl a'r blaned uwchben elw. Ar hyn o bryd mae Laura a'i thîm yn gweithio ar y twf allforio a chanolfan ddosbarthu newydd wedi'i sefydlu yn y UDA er mwyn cyflawni nifer cynyddol o archebion i'r Unol Daleithiau.

Mae Laura yn ymddiriedolwr ymarferol yr elusen cwmni Nema, sy'n gweithio i leddfu tlodi ymysg plant yn Affrica, mae'n fentor rheolaidd i bobl fusnes eraill ac yn rhedeg menter amgylcheddol sy'n gweithio i ailgylchu dillad plant bach wedi'u gwisgo ar gyfer eu dosbarthu gan Barnardos, gan arbed hyd at 50,000 o ddillad o safleoedd tirlenwi a helpu'r rhai sydd mewn angen yn y DU.

Mae Laura wedi ennill nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Menyw Busnes y Flwyddyn Veuve Clicquot ac MBE am wasanaethau i ddiwydiant.

Susanna Reid

Susanna Reid in graduation gown
Susanna Reid

Mae Susanna Victoria Reid yn newyddiadurwraig a chyflwynydd sy'n fwyaf adnabyddus fel cyd-gyflwynydd BBC Breakfast o 2003 tan iddi adael yn gynnar yn 2014. Mae hi ar hyn o bryd yn cyd-gyflwyno rhaglen 'Good Morning Britain' ar sianel deledu ITV.

Astudiodd Wleidyddiaeth, Athroniaeth a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste (1989-1992), lle bu'n olygydd 'Epigram', papur newydd myfyrwyr y Brifysgol. Wedi hynny astudiodd Diploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Darlledu o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Dechreuodd ei gyrfa yn BBC Radio Bristol, ac yna daeth yn ohebydd ar gyfer Radio 5 Live, yn ogystal ag yn gynhyrchydd. Yna, ymunodd â BBC News 24, lle y treuliodd ddwy flynedd fel gohebydd. Daeth yn ohebydd ar gyfer Breakfast News yn 1998 a daeth yn un o'r prif gyflwynwyr ar BBC Breakfast o 2010-2014.

Mae Susanna'n gyfrannwr rheolaidd i Media Trust, yr elusen sy'n cysylltu elusennau eraill i'r diwydiant cyfryngau. Mae wedi cynnal digwyddiadau ar gyfer Ymddiriedolaeth Myotubular a Chelfyddydau Gwirfoddol Lloegr.

Sam Warburton

Sam Warburton in graduation robes
Sam Warburton

Mae Sam yn chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru. Mae e'n chwarae rygbi rhanbarthol i'r Gleision Caerdydd a chafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 2009. Mae wedi mynd ymlaen i ennill 54 o gapiau dros Gymru.

Ym mis Mehefin 2011 cafodd ei enwi fel capten Cymru yn erbyn y Barbariaid, ac yn dilyn hynny yn Awst 2011 cafodd ei enwi yn gapten Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011, yn 22 mlwydd oed.

Sam oedd Capten y Llewod ar eu taith buddugol i Awstralia yn 2013. Mae e'n dal y record am y mwyafrif o gapiau dros Gymru fel capten gan arwain yr ochr ar 35 achlysur. Mae Sam yn noddwr Canolfan Ganser Felindre.

Philippa Gregory

Philippa Gregory in graduation robes
Philippa Gregory

Roedd Philippa Gregory yn hanesydd a llenor sefydledig pan ddarganfu ei diddordeb yng nghyfnod y Tuduriaid ac ysgrifennodd y nofel The Other Boleyn Girl, a wnaed i mewn i ddrama deledu a ffilm fawr. Yn awr, 14 nofel yn ddiweddarach, mae hi'n dychwelyd at y Tuduriaid gyda chweched gwraig Harri'r VIII, Kateryn Parr.

Diddordeb mawr arall Philippa yw'r elusen a sefydlodd bron 20 mlynedd yn ôl: Gardens for The Gambia. Mae'r elusen wedi codi arian ar gyfer tua 200 o ffynhonnau mewn ysgolion cynradd y wlad Affricanaidd sych a thlawd iawn hon. Mae miloedd o blant ysgol wedi gallu dysgu garddio marchnad a thyfu bwyd i'w fwyta yn y gerddi ysgol sy'n cael eu dyfrio gan y ffynhonnau.

Mae'r elusen hefyd yn darparu ffynhonnau ar gyfer gerddi ar y cyd i fenywod ac ar gyfer unig goleg amaethyddol Gambia yn Njawara.

Graddiodd Philippa o Brifysgol Sussex gyda gradd mewn Hanes, a derbyniodd PhD mewn Hanes yn llenyddiaeth y 18fed ganrif o Brifysgol Caeredin. Yn 2009 cafodd ddyfarniad Alumna y Flwyddyn gan Brifysgol Caeredin. Mae hi hefyd yn adolygu ar gyfer The Washington Post, yr LA Times, ac ar gyfer papurau newydd y DU, ac yn ddarlledwr cyson ar y teledu a'r radio. Mae hi'n postio'n rheolaidd i'w llu o ddilynwyr ar Facebook a Twitter.

Ruth Hunt

Ruth Hunt in graduation robes
Ruth Hunt

Penodwyd Ruth Hunt yn Brif Weithredwr Stonewall ym mis Awst 2014, ar ôl gweithio mewn swyddi uwch yn y sefydliad ers 2011.

Mae hi wedi llwyddo i arwain datblygiad arloesol allbynnau polisi, ymgyrchu ac ymchwil Stonewall, gan gynnwys ei waith i fynd i'r afael â bwlio homoffobaidd mewn ysgolion, ymyriadau effeithiol i wella iechyd pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol a rhaglenni datblygu arweinyddiaeth enwog Stonewall.

Ers cymryd yr arweinyddiaeth, mae Ruth wedi ymrwymo i ddod â Stonewall hyd yn oed yn ddyfnach i mewn i gymunedau, gan ymgysylltu â grwpiau o wahanol ethnigrwydd, crefydd a daearyddiaeth - yn y DU a thramor.

Mynychodd Ruth Goleg St. Hilda, Rhydychen lle bu'n astudio Saesneg ac fe'i hetholwyd yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr Rhydychen. Yn 2014, cafodd Ruth ei phleidleisio'n wythfed person LHDT (LGBT) mwyaf dylanwadol ym Mhrydain yn Rhestr Rainbow yr Independent.

Dr Ceri M Powell

Ceri Powell in graduation robe
Dr Ceri Powell

Daw Ceri o Sir Benfro. Graddiodd gyda BSc. mewn Daeareg o Brifysgol Lerpwl, a gyda PhD mewn Daeareg Strwythurol o Brifysgol Cymru (Caerdydd).

Ymunodd Ceri â Shell yn 1990, ac mae wedi gweithio fel geowyddonydd yn y DU, Angola, Malaysia, yr Iseldiroedd, a'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Yn 2009 apwyntiwyd hi'n Is-Lywydd Gweithredol Exploration for Shell, yn goruchwylio holl agweddau technegol archwilio'r cwmni ac yn atebol am weithrediadau archwilio a chyfleoedd busnes newydd yn Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol, Rwsia, Asia ac Awstralia.

Mae'n aelod gweithgar o Fwrdd Ymgynghorol mawreddog rhaglen y Cenhedloedd UnedigYnni Cynaliadwy i Bawb, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Yn 2014 cafodd Ceri Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol Heriot-Watt am wasanaethau i Wyddorau'r Ddaear. Ers 2014 mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Carillion PLC ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Bwrdd Cynaliadwyedd.

Mae hi'n byw yn Yr Hag yn Yr Iseldiroedd, ac mae ganddi hefyd gartref yn y Cotswolds lle mae'n arddwr brwd sy'n arbenigo mewn perlysiau meddygol.

Fel un o'r prif fenywod yn y Diwydiant Ynni heddiw, mae Ceri wedi ennill yr anrhydedd o fod ar y rhestr Fortune Top 50 o'r Menywod mwyaf pwerus mewn Busnes Rhyngwladol, ddwywaith yn 2013 ac eto yn 2014. Mae hi wedi'i rhestru ar hyn o bryd yn Rhif 21.

Marcus McGilvray

Marcus McGilvray in graduation robes
Marcus McGilvray

Magwyd Marcus McGilvray yn Sir Fynwy a hyfforddodd yn Llundain fel Nyrs Arbenigol HIV. Bellach yn byw yn KwaZulu Natal, De Affrica, Marcus yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Africaid - Whizzkids United, cwmni dielw sy'n darparu gwasanaethau iechyd, addysg a grymuso i bobl ifanc dan anfantais.

Mae mwy na 20 o raglenni yn ffurfio WhizzKids United (i gyd wedi'u cynllunio gan Marcus) gan gynnwys iechyd rhywiol ac atgenhedlu, atal HIV a thriniaeth, gofal a chymorth OVC, grymuso merched a chynghrair pêl-droed i'r ddau ryw i gyd yn rhedeg o Academi Iechyd WhizzKids United.

Yn y tair blynedd diwethaf mae mwy na 35,000 o bobl ifanc rhwng 12 a 20 oed ar draws Affrica wedi defnyddio gwasanaethau Africaid. Mae'r Athro Bruce Walker, ymchwilydd blaenllaw o HIV/Aids yn Ysgol Feddygol Harvard yn disgrifio Whizzkids fel "un o'r rhaglenni atal HIV mwyaf trawiadol a welais erioed." Yn 2010 a 2102, cymeradwywyd Whizzkids United gan Gynghorydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig i'r Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Heddwch.

Gwnaed Marcus yn Brif Ghanaidd yn 2013 i anrhydeddu ei gyfraniad i'r gymdeithas Affricanaidd.

David Pountney

David Pountney
David Pountney

Enillodd David Pountney ei enw fel cyfarwyddwr rhyngwladol gyda'i gynhyrchiad o Katya Kabanova yng Ngŵyl Wexford 1972. Rhwng 1975 a 1980, roedd yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ar gyfer Opera'r Alban.

Roedd cynyrchiadau yno yn cynnwys cylch Janáček mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfarwyddodd bremière y byd Toussaint gan David Blake yn 1977 (ENO) ac aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ENO yn 1980, gan gyfarwyddo dros 20 o operâu.

Mae wedi cyfarwyddo nifer o berfformiadau cyntaf y byd, gan gynnwys tri gan Peter Maxwell Davies ac wedi cyfieithu operâu i'r Saesneg o'r Rwseg, Tsieceg, Almaeneg ac Eidaleg.

Fel cyfarwyddwr llawrydd o 1992 bu'n gweithio'n gyson yn Zurich, yn Opera'r Wladwriaeth yn Fienna, Bayerische Staatsoper, yn ogystal â thai opera yn America a Siapan, ac yn y DU mae ganddo gysylltiad hirsefydlog gydag Opera North.

Derbyniodd fedal Janáček am ei gylch Janáček yng Nghymru a'r Alban, a medal Martinů am ei gynyrchiadau o Julietta a Greek Passion (Opera North a Gŵyl Bregenz).

Mae ei gynyrchiadau wedi ennill gwobr Olivier ddwywaith. Mae ei gyflawniadau diweddar yn cynnwys Saul og David yn Copenhagen; The Passenger (Houston, Efrog Newydd a Chicago); Kommilitonen, ei drydedd opera a ysgrifennwyd ar y cyd â Peter Maxwell Davies (Yr Academi Gerdd Frenhinol a pherfformiad cyntaf yr Unol Daleithiau yn Ysgol Juilliard, Efrog Newydd) . Yn ogystal cyfarwyddodd opera newydd Philip Glass, Spüren der Verirrten, ar achlysur agor tŷ opera newydd yn Linz. Enillodd y Wobr Schickaneder ar gyfer y cynhyrchiad opera gorau yn 2013, a Die Zauberflöte ar gyfer y 'llwyfan llyn' yn Bregenz, lle'r oedd yn arolygwr o 2003 - 13.

Ers 2011 mae wedi bod yn Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n CBE, Chevalier yn yr Ordre des Arts et Lettres Ffrengig ac mae ganddo'r Cavalier's Cross o Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl a dyfarnwyd yr Ehrenkreuz des Bundes Österreich iddo yn 2014. Yn ddiweddar, enillodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gydnabod.

Yr Athro y Fonesig Dame Anne Glover, CBE

Professor Dame Anne Glover
Professor Dame Anne Glover

Mae gan Anne BSc mewn Biocemeg o Gaeredin a PhD mewn Microbioleg Moleciwlaidd o Gaergrawnt. Mae hi wedi dilyn gyrfa mewn ymchwil wyddonol ym Mhrifysgol Caeredin ac mae ei hymchwil wedi bod yn amrywiol, gan gynnwys astudio sut mae proteinau yn cael eu cyfeirio at y lleoliad cywir o fewn ein celloedd, amrywiaeth a swyddogaeth y boblogaeth microbaidd mewn pridd, datblygiad synwyryddion biolegol (biosynhwyryddion) i ganfod llygredd amgylcheddol ac yn fwy diweddar, sut yr ydym yn ymateb i straen ar y lefel foleciwlaidd.

Yn 2008 fe'i gwnaed yn Fenyw o Gyflawniad Eithriadol mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET). Mae wedi gweithio'n galed i godi proffil menywod mewn SET i sicrhau nid yn unig bod menywod yn cael eu recriwtio i mewn i yrfaoedd mewn SET ond eu bod yn cael eu cefnogi i aros yn y proffesiwn yn ystod eu gyrfaoedd. Mae Anne wedi hyrwyddo cyfathrebu gwyddoniaeth ac wedi ymddangos ar y BBC a theledu rhyngwladol a llawer o raglenni radio byd-eang. Yn 2009, dyfarnwyd iddi'r CBE gan y Frenhines i gydnabod ei gwasanaethau i wyddorau amgylcheddol.

Anne oedd y Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf i Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd (2012-2015). Cyn hynny, hi oedd y Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf ar gyfer yr Alban (2006-2011). Ar hyn o bryd mae hi'n Is-Brifathro Materion Allanol a Deon ar gyfer Ewrop ym Mhrifysgol Aberdeen. Daeth yr Athro Glover yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) am wasanaethau i Wyddoniaeth yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2015.