Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr er Anrhydedd

Rydym ni'n dyfarnu Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi cyflawni arbenigrwydd rhyngwladol yn eu maes.

Ymhlith y rhai a anrhydeddwyd i gydnabod eu cyflawniadau ceir unigolion o feysydd meddygaeth, optometreg, peirianneg, y cyfryngau, busnes a'r gyfraith.

2014 Cymrodyr er Anrhydedd

Jason Mohammad

Newyddiadurwr yw Jason Mohammad a raddiodd o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.


Ymunodd â'r BBC ym 1997 fel gohebydd i BBC Wales Today cyn cael swydd prif gyflwynydd Wales on Saturday. Yn 2013, daeth yn gyflwynydd rhaglen Final Score ar BBC One.


Erbyn hyn mae'n un o brif gyflwynwyr adran Chwaraeon y BBC, ac mae newydd ddychwelyd o Gwpan y Byd ym Mrasil. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglen ddyddiol ar BBC Radio Wales.

Peter Vaughan QPM

Peter Vaughan QPM yw Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, y llu yr ymunodd ag ef ym 1984 gan wasanaethu ar bob lefel ym mhob rhan o ardal yr heddlu.

Gadawodd yn 2003 i ymuno â Heddlu Swydd Wiltshire ond dychwelodd i Dde Cymru yn 2007 fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol ac yna Dirprwy Brif Gwnstabl. Yn 2010 olynodd Barbara Wilding yn y brif swydd.

Mae'n Is-Lywydd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) a dyfarnwyd Medal Heddlu'r Frenhines iddo yn 2013.

Keith Griffiths

Dylunydd ag iddo barch rhyngwladol yw Keith Griffiths, sy'n arbenigo mewn amgylcheddau uchel, dwys ac sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn dylunio yn Asia.

Mae'n Gadeirydd practis pensaernïol rhyngwladol Aedas.

Daw Keith yn wreiddiol o Dyddewi yn Sir Benfro, a dechreuodd ar raglen o brynu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol pwysig yn Ne Orllewin Cymru yn 2009 gan gwblhau Castell Roch a Gwesty Penrhiw, ac mae gwaith ar Westy Twr y Felin yn mynd rhagddo.

Yr Athro Chris Toumazou

Mae'r Athro Chris Toumazou wedi cysegru ei fywyd i weithio i achub a gwella bywydau drwy ddyfeisio technoleg chwyldroadol, arloesol ac aflonyddgar, creu sefydliad ymchwil meddygol blaengar a thair menter fasnachol i fasnacheiddio ei ymchwil.

Daeth yn Athro yn Imperial College yn 33 oed; y penodiad ifancaf erioed yn Imperial, i gydnabod ei ymchwil eithriadol.

Yn 2013 daeth yn Athro Peirianneg Regius cyntaf Llundain yn Imperial College yn ystod Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Sara Miller McCune

Sarah Miller McCune

Sara Miller McCune yw sylfaenydd SAGE a hi yw Cadeirydd Gweithredol Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni ar hyn o bryd.


Gydag ysbryd entrepreneuraidd ac ymroddiad diwyro i academia, sefydlodd Sara SAGE ym 1964 yn 24 oed gan greu cwmni a fyddai'n caniatáu i ysgolheigion ledaenu ymchwil o ansawdd uchel yn eu lleisiau eu hunain a thorri tir newydd mewn meysydd astudio oedd yn datblygu.


Mae hi'n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Astudiaethau Uwch mewn Gwyddorau Ymddygiadol ym Mhrifysgol Stanford ac Academi Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol America, yn Philadephia.

Danny Blanchflower

Danny Blanchflower yw Athro Economeg Dartmouth College, New Hampshire, Golygydd Economaidd y New Statesman ac mae'n gyn-aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr.

Mae hefyd yn Athro Economeg rhan amser ym Mhrifysgol Stirling ac yn Ymchwilydd Cyswllt yn y Bwiro Cenedlaethol er Ymchwil Economaidd.

Mae'n ysgrifennu i bapur The Independent fel colofnydd economeg ac mae'n olygydd cyfranogol i Bloomberg TV.

Tony Woodcock

Penodwyd Tony Woodcock yn Llywydd y New England Conservatory ym mis Mehefin 2007, yn dilyn gyrfa fel rheolwr cerddorfa yn y DU a'r Unol Daleithiau.


Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd ym 1974 dechreuodd ei yrfa yn rheoli'r celfyddydau gyda swyddi yng Nghyngor Celfyddydau Cymru a South East Arts, gan ddychwelyd i Gaerdydd ym 1984 fel Rheolwr Cyffredinol Neuadd Dewi Sant, oedd newydd agor.


Mae wedi bod yn Brif Weithredwr ar nifer o gerddorfeydd ac mae iddo barch eang am iddo adfywio perfformiad ariannol ac arweinyddiaeth gelfyddydol Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cherddorfa Symffoni Bournemouth, Cerddorfa Symffoni Oregon, a Cherddorfa Minnesota.

Graddau Er Anrhydedd

Syr Paul Nurse

Genetegwr a biolegydd celloedd yw Syr Paul Nurse ac mae wedi gweithio ar ganfod sut caiff y cylch celloedd ewcaryotig ei reoli a sut caiff siâp a dimensiynau celloedd eu pennu.

Mae'n Llywydd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Francis Crick yn Llundain. Mae wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Cancer Research UK a Llywydd Prifysgol Rockefeller.

Rhannodd Wobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth yn 2001 ac mae wedi derbyn Gwobr Albert Lasker, a Medal Frenhinol a Medal Copley y Gymdeithas Frenhinol. Fe'i dyrchafwyd yn farchog ym 1999 a derbyniodd y Legion d'honneur yn 2003.

Dr Lyndon Evans

Ar hyn o bryd mae Dr Lyndon Evans yn athro ymweliadol yng Ngholeg Imperial Llundain ac mae'n Gyfarwyddwr Prosiect Cydweithredol y Peiriant Gwrthdaro Llinellol.


Ers 1993 mae wedi arwain y tîm a gynlluniodd, a adeiladodd ac a gomisiynodd y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr.

Dyfarnwyd Gwobr Ffiseg Sylfaenol arbennig iddo yn 2013 am ei gyfraniad i ddarganfyddiad yr Higgs boson.
Derbyniodd un o Wobrau Dydd Gŵyl Dewi cyntaf Llywodraeth Cymru.