Eisteddfod 2013
Cais am Gyfraniadau tuag at Eisteddfod 2013
Hoffem gymryd y cyfle hwn i roi cyfle i’n hymchwilwyr ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n mynychu’r Eisteddfod. Eleni, cynhelir yr Eisteddfod yn Ninbych, gogledd Cymru, rhwng 3 a 10 Awst.
Bydd presenoldeb y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn wahanol eleni o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf, pan gydweithion ni â Techniquest i dargedu teuluoedd a phlant yn bennaf. Eleni, hoffem dargedu ystod ehangach o bobl, ac rydym yn bwriadu trefnu dau ofod gwahanol ar y maes i gynnal ein gweithgareddau.
Bydd y safle cyntaf, y Gofod Trafod, yn cynnig cyfleoedd i gynnal sgyrsiau, rhwydweithio ac i ddangos ffilmiau. Tra bydd y llall, y Gofod Archwilio, yn safle a fydd yn galluogi pobl i ymgysylltu mewn ffordd ryngweithiol ag ymchwil y Brifysgol.
Mae’r Eisteddfod yn ŵyl sy’n dathlu diwylliant Cymru yn hytrach na’r iaith Gymraeg yn unig, felly cyn belled â bod gennym ni bresenoldeb Cymraeg digonol, ni fydd anallu i siarad Cymraeg yn rhwystr rhag cymryd rhan.
Lecture at the National Eisteddfod
Ni fydd disgwyl i aelodau staff aros am yr wythnos gyfan, oherwydd mai’r bwriad yw cynnig rhaglen gyffrous a newidiol o weithgareddau a digwyddiadau diddorol er mwyn denu a chyffroi amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol. Hoffem weld academyddion yn mynychu ac rydym yn annog defnyddio myfyrwyr ôl-raddedig i gynorthwyo gyda’r gweithgareddau (mae’n bosibl y gallwn gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd ar gael drwy wneud hynny hefyd).
Bydd cymorth a chyllid ar gael i ddatblygu gweithgareddau a’u gwneud nhw’n ddwyieithog lle bo angen.
Gwahoddir pedwar math o gyfraniad:
- Ymgysylltu rhyngweithiol gydag ymchwil Prifysgol Caerdydd
- Yn ddelfrydol, cynrychiolaeth gan y tri choleg bob dydd.
- Gweithgareddau rhyngweithiol – yn hytrach na phobl yn gofalu am stondin arddangos yn unig.
- Gellir manteisio ar y cyfle i gasglu data ymchwil, os yw’n briodol, er enghraifft agweddau pobl tuag at newid yn yr hinsawdd neu ddealltwriaeth y cyhoedd o’r newidiadau i strwythurau gwleidyddol Cymru.
- Yn ogystal, mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i gasglu safbwyntiau uniongyrchol pobl ynghylch pynciau y gellir eu defnyddio gan ysgolion/colegau i greu cynnwys gwe bywiog.
- Digwyddiadau rhwydweithio a derbyniadau ffurfiol
- Cynhelir yr Eisteddfod yng ngogledd Cymru, ac mae’r ŵyl yn denu cynulleidfa reolaidd a dylanwadol o bob rhan o Gymru, gan gynnig cyfle da i rwydweithio gyda phobl o ystod o sefydliadau, meysydd proffesiynol a lleoliadau.
- Bydd hi’n bosibl defnyddio’r Gofod Trafod i lansio prosiectau neu ganfyddiadau sy’n berthnasol i Gymru. Mae BBC Cymru ac S4C yn bresennol trwy gydol yr wythnos.
- Sylwer: byddai angen cyd-drefnu’r digwyddiadau hyn gyda’i gilydd a gyda’r tîm cysylltiadau cyhoeddus.
- Trafodaethau wedi’u hanelu at grwpiau oedran penodol
- Os dymunwch gynnal sgwrs gyhoeddus, cysylltwch â ni. Bydd rhaid cynnal y sgyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag unrhyw sesiwn holi ac ateb cysylltiedig.
- Dangos Ffilmiau
- Bydd hi’n bosibl defnyddio’r gofod trafod i ddangos ffilmiau am ymchwil Caerdydd, er enghraifft mae ENCAP wedi cynhyrchu ffilm am atgofion pobl o Asia sy’n byw yn ne Cymru am Ddyraniad India.
- Os oes gennych chi ffilm addas, cysylltwch â ni. Bydd angen i ni drefnu gosod isdeitlau Cymraeg neu recordio troslais ar unrhyw ffilm nad yw eisoes yn Gymraeg.
Os hoffech chi gymryd rhan neu os byddwch chi eisiau trafod eich syniadau, anfonwch neges e-bost at community@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch Bruce Etherington, Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned, ar estyniad 76934.
Er mwyn sicrhau digon o amser i ddatblygu ac ychwanegu gweithgareddau at y rhaglen, gofynnwn i chi gysylltu â ni erbyn dydd Gwener 3 Mai.

