Skip to content
Skip to navigation menu

 

Siaradwyr Cymraeg

Rhowch eich iaith ar waith!

Yn ôl Tracey Williams, perchennog asiantaeth recriwtio Job Trac Cymru ac Ymgynghorydd Adnoddau Dynol i gwmni teledu Avanti:

“Mae’r gystadleuaeth am swyddi yn gallu bod yn anodd iawn ac mae sgiliau iaith Gymraeg yn gallu bod yn rhywbeth gall ymgeisydd gynnig yn ychwanegol i ymgeiswyr eraill.   Hefyd, mae yna rai swyddi sydd yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol.”

Felly os ydych yn edrych am waith, defnyddiwch eich iaith!

Gwasanaethau Gyrfaoedd i Siaradwyr Cymraeg

Mae croeso i chi wneud defnydd o’r holl wasanaethau gyrfaoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal, mae’r gwasanaethau  a’r adnoddau canlynol ar gael yn benodol i siaradwyr Cymraeg:

  • Cyfweliadau Gyrfaoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae un Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Mharc Cathays yn siarad Cymraeg ac mae’r Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Marc y Mynydd Bychan hefyd yn siarad Cymraeg.  Mae modd gwneud apwyntiad ar-lein yn www.caerdydd.ac.uk/carsv
  • Llyfrynnau Gyrfaoedd yn y Gymraeg e.e. CVs a Llythyrau Eglurhaol. Copiau ar gael yn y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ac ar waelod y dudalen www.cf.ac.uk/carsv/students/resourcesdestinations/booklets/index.html
  • Taflen “Man Cychwyn – Y Gymraeg a Gwaith” o dan ‘Related Resources’
  • Gweithdai Llunio CV, FFurflenni Cais a Medrau Cyfweld cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol y Gymraeg fel rhan o fodiwl ‘Cymraeg y Gweithle’ bob Hydref.  Mae’r gweithdai yma ar gael i fyfyrwyr mewn ysgolion eraill yn ôl y galw
  • Gweithdai Profiad Gwaith cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Ysgol y Gymraeg. Mae’r gweithdai yma ar gael i fyfyrwyr mewn ysgolion eraill yn ôl y galw

Gwefannau Swyddi i Siaradwyr Cymraeg

Yn ogystal, mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu yn y cylchgrawn Golwg


Manteisiwch felly ar y cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog yn y byd gwaith. Gall ond cryfhau eich safle mewn marchnad swyddi gystadleuol.